³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Ieuan Thomas yn rhoi tips i Arwyn Groe ar sut i ddyfalu yr atebion cywir i'r croesair. Noson i'w chofio
Rhagfyr 2008
Dathliad pen-blwydd y Plu yn ddeg ar hugain oed a cyhoeddiad dwy gyfrol i ddathlu'r penblwydd.

Noson i'w chofio

Ymgasglodd cynulleidfa niferus yn Neuadd Llanerfyl, nos Wener, Tachwedd 21 i ddathlu penblwydd y Plu yn ddeg ar hugain oed.

Fe ddechreuwyd y noson drwy gael cipolwg ar rai o'r cannoedd o luniau a ymddangosodd yn y papur ac roedd yn bosib clywed pin yn disgyn wrth i bawb syllu arnynt. Trist oedd gweld nifer o gyfoedion nad ydynt gyda ni bellach, ond cofiwn yn annwyl amdanynt ac am eu cyfraniadau i sicrhau llwyddiant y papur yn ei blentyndod.

Cafwyd cipolwg ar nifer o hen gardiau post a dynnwyd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Roedd Alwyn yn ddiolchgar iawn am y sylwadau diddorol a ddaeth gan aelodau'r gynulleidfa.

Bu Arwyn Groe yn brysur yn pori drwy hen rifynnau a chafwyd detholiad ganddo o gerddi doniol a dwys a welwyd yn y Plu. Tri yn unig a fu yng ngofal y golofn farddol sef Ivor Baines, Nest Davies ac Arwyn Groe.

Diolchwn i'r tri, yn enwedig i Arwyn am ei ymrwymiad ai waith cydwybodol.

Cafodd pawb baned a lluniaeth ysgafn diolch i rai o wragedd caredig y fro cyn gwylio mwy o'r hen luniau a fu yn y Plu. Cefais argraff fod pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr ac roedd awyrgylch gartrefol, gynnes yno. Dyma ddangos nad oedd rhaid talu cannoedd o bunnoedd i artistiaid neu gorau er mwyn i bobl gael mwynhad!

Diolch i bawb a fu ynghlwm â'r noson mewn unrhyw fodd - os nad oeddech yno, fe gawsoch golled!

Lansio Dwy Gyfrol

Cyhoeddwyd dwy gyfrol fechan i ddathlu penblwydd arbennig ein papur bro. Fel y gwyddom, mae colofn Ann y Foty yn hynod boblogaidd, ond ychydig iawn o gopïau gwreiddiol o'r gyfrol sy mewn bod. Cyhoeddwyd y gwreiddiol gan Sam Ellis, (Pennantwrch gynt) ar ôl iddo ymfudo i'r Amerig yn 1914. Ysgrifennwyd y stori mewn tafodiaeth leol ac mae ynddi gyfeiriadau at gyfnod sy'n ddieithr iawn i ni bellach.

Casgliad o gardiau post sy yn yr ail gyfrol, y rhan fwyaf ohonynt wedi'w cyhoeddi rhwng 1900 a 1920. 'Cofion Cynnes' yw enw'r gyfrol ac mae hen luniau o bob ardal sy o fewn dalgylch y Plu ynddi. Dyma gofnod pwysig o hanes cymdeithasol sy'n ein hatgoffa am y gorffennol a byddant o werth mawr i haneswyr y dyfodol.

Cyhoeddwyd y ddwy gyfrol diolch i waith caled Paul a Mary Steele, ac maent ar gael yn y mannau isod am dair punt yr un, neu pumpunt am y ddwy - bargen yn wir. Bydd y cyfrolau ar gael o Siop Pethe Powys ac amryw o siopau bach yr ardal neu gan Gwyndaf Roberts ac Alwyn a Catrin Hughes (01938 820594). Nifer gyfyngedig o'r cyfrolau sydd wedi'w cyhoeddi - y cyntaf i'r felin gaiff falu!

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý