成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
O Bont Llogel i Beijing
Tachwedd 2005
Annwen ac Angharad Richards yn s么n am daith mis ar draws Tseina gyda ffrindiau coleg.

Ym mis Mehefin eleni dechreusom ar daith mis o hyd ar draws Tseina. Cawsom ein gwahodd yno gan ferch Tseiniaidd, ffrind coleg, ac yn wir roedd hyn yn gyfle na allem ei golli. Mae Yang yn byw mewn tref o'r enw Bazhou, i'r de o Beijing. Wrth aros gyda theulu cynhenid cawsom, gipolwg ar fywyd pob dydd pobl Tseina yn siopa, gwylio teledu a chymdeithasu.

Aethom allan am fwyd sawl noson a chawsom ein hannog i flasu bwydydd arbennig megis Peking Duck (y gair Tseiniaidd am hyn yw "Kaoya" sydd yn swnio'n debyg i Cyw l芒r). Gwnaethom brofi bwydydd anarferol, er enghraifft malwen a llyffant, ond i ddweud y gwir nid oeddem bob amser yn gwybod yn union beth oedden ni'n ei fwyta. Un peth amlwg oedd eu bod yn bwyta llawer o gig ar yr asgwrn ac mi oedd y bwyd yn tueddu i fod yn gyfoethog iawn. Mae Chinese takeaways adre yn eitha plaen o'i gymharu! Roedd y Gwin Reis yn gryf iawn - 39% alcohol!

Cawsom lawer o sylw gan y brodorion oherwydd ein bod yn orllewinwyr gwyn. Yn Bazhou, lle nad yw pobl wedi arfer a gweld pobl ddieithr, roedd pawb yn syllu arnom yn gyson. Hyd yn oed yn y brif ddinas, Beijing, cawsom lawer o sylw, ond yn yr achos yma, gan ein bod yn efeilliaid neu "shuang bao tai". Buasech yn meddwl y buasem yn fwy anhysbys mewn lle enfawr fel Tiananmen Square, sydd yn gallu dal miliwn o bobl ac felly yn sgw芒r mwya'r byd. Ond mi oeddem yn sefyll am oesoedd yn ymyl y fflag goch, a phobl eisiau tynnu lluniau efo ni, fel petaem yn enwog!

Roedd y tywydd yn annioddefol o boeth ar adegau a'r air conditioning yn fendith. Er ein bod ni'n teimlo fel yr unig rai oedd yn dioddef yn sg卯l y gwres, clywsom ar y newyddion fod yna heatwave yn yr ardal a'i bod yn uwch na 40 gradd celsiws (sef un o'r diwrnodau poethaf yn ystod y deugain mlynedd diwethaf!). Yr eironi oedd tra bod cyflenwad d诺r Gogledd Tsiena yn brin, roedd llifogydd tymhorol yn boddi'r De.

Traffig trwm
Roedd y traffig ym Meijing fel petai'n awr brysur (rush hour) gyson, gyda'r un oedd yn ein tywys o gwmpas y ddinas yn datgan y bydd Beijing yn un maes parcio anferth ymhen deng mlynedd! Felly syndod oedd gweld tyrrau o feiciau a cherddwyr ar y ffyrdd. Un noswaith mi aethom ar goll ar y ffordd yn 么l i'r gwesty, gan fod yr "hutongs" (sef strydoedd bach) yn edrych yn debyg iawn i'w gilydd a hithau ar fin nosi.

Cerdded y Wal Fawr
Nid yw'n bosib mynd i Tseina heb weld y Wal Fawr. Gwnaethom gerdded chydig o kilomedrau ar hyd rhan Badaling o'r wal sydd yn y cyflwr gorau. Mae'n llawer mwy serth nag yr ymddengys, ac yn eitha peryglus mewn rhannau!

Wedi i ni fod yn y gogledd am dros wythnos penderfynasom symud ymlaen i dde-ddwyrain y wlad enfawr. Teithiasom ar dr锚n am tua deuddeg awr mewn caban hardsleeper lle mae gwl芒u wedi'u gosod mewn rhesi o dri ar ben ei gilydd gyda chwe deg person ymhob cerbyd. Er y disgrifiad hwn, mi oedd yn weddol gyfforddus, ond braidd yn chwithig teithio efo gymaint o ddieithriaid. Fe gysgom efo'n bagiau tu 么l i'n pennau i fod yn ddiogel. Yn ffodus roeddem yn eistedd yn ymyl teulu gyda mab 10 mlwydd oed oedd yn gallu siarad Saesneg yn weddol rhugl, gyda'i fam a'i dad yn awyddus iddo ymarfer siarad gyda ni. Siaradom am dros ddwy awr, a fo'n ceisio dysgu ychydig o Tseinieg i ni ar yr un pryd.

Aros yn nhref y finegr
Arhosem gyda theulu modryb Yang mewn tref o'r enw Zhenjiang, sy'n enwog am finegr. Tra yno fe aethom i Nanjing, sef cyn brif ddinas Tseina, ac i ynys yng nghanol yr afon Yangtze gyda hanes diddorol iawn iddi. Cafodd ei choncro gan y Saeson yn ystod rhyw ryfel neu'i gilydd, fel y gallent reoli masnach a thrafnidiaeth o'r de i'r gogledd ac o'r dwyrain i'r gorllewin. Erbyn heddiw y mae'n fynachlog Bwdhaidd ac yn amgueddfa arysgrifennau. Yn ogystal treuliasom ddiwrnod gyda bws llawn o "tourist guides" dan hyfforddiant yn Yangzhou. Er nad oeddem yn deall gair, roedd hyn yn brofiad gwahanol. Tra yno cwrddasom 芒 nifer o bobl ifanc Tseinaidd a sylweddoli bod ganddynt ddiddordebau tebyg i ieuenctid ein gwlad ni, megis miwsig, y we, chwaraeon, teledu a.y.y.b.


Shanghai oedd y cam nesaf. Mae'r ddinas hon yn amlwg wedi cael mwy o ddylanwad gorllewinol o'i chymharu 芒 Beijing. Dangosir hyn gan y crafwyr awyr ag enwau poblogaidd cyfarwydd. Ochr wrth ochr 芒 hyn gwelir y rhan draddodiadol i'r ddinas gydag adeiladau addurniadol, siopau anrhegion a thai bwyd yn leinio'r strydoedd cul a syth. Yn y nos daw'r ddinas yn fyw gyda goleuadau, miwsig a chyffro'r torfeydd yn ychwanegu at y naws.

Aethom i fyny'r Oriental Pearl Tower ac o 263m mae'n bosib gweld y ddinas anferth (y chweched fwyaf yn nhermau poblogaeth yn y byd) yn ymestyn hyd at y gorwel pell.

Ymlaen i Hong Kong
Roeddem yn awyddus iawn i weld Hong Kong, y gi芒t rhwng Tseina a'r byd gorllewinol. l gyrraedd yno roedd yn rhaid cymryd taith tr锚n oedd yn para am 27 awr! Mae'n swnio fel amser hir ond pan mae 'na gymaint a olygfeydd deniadol a thirlun newidiol, mae amser yn mynd yn o gyflym.

Erbyn hyn mi oeddem ni ar ben ein hunain yn llwyr a Yang wedi mynd n么l adre ar 么l Shanghai. Roedd pobl ar y tr锚n yn ceisio cyfathrebu gyda ni, ond nid oeddem yn deall y symbolau yr oeddynt yn eu hysgrifennu. Llwyddodd Angharad i ddweud wrthyn nhw ein bod yn dod o Gymru "Wei er sei" a'n bod yn efeilliaid "shuang bao tai". Er mawr syndod, roedd 'na dipyn o bobl wedi clywed am Gymru fach, er eu bod yn cyfeirio ati fel y wlad drws nesa i Loegr. Ac roedd un person yn credu mai tafodiaith o'r iaith Saesneg oedd Cymraeg a ninnau'n gorfod esbonio mai iaith hollol wahanol oedd hi!

Cyrhaeddasom Hong Kong, ddiwrnod yn gynnar felly roedd yn rhaid i ninnau aros mewn gwesty yn Kowloon am un noson. Lleolir hwn yn yr ardal sydd gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf yn y byd.

Syndod tirlun Hong Kong
Roeddem ni o hyd wedi dychmygu Hong Kong, fel un ddinas anferth, ond mewn gwirionedd mae dros hanner ohono'n dir gwledig gan gynnwys dros 200 o ynysoedd bach. Yr olygfa orau yw o gopa Victoria Peak. Mae modd cyrraedd yno ar y rheilffordd funicular sydd yn 27 gradd o lethder mewn mannau. Trafeiliem ar fferi bob dydd i Hong Kong island, ar hyd yr harbwr mwyaf prysur yn y byd. Gwelir ddylanwad Prydain yn amlwg yna gydag enwau ffyrdd megis 'Carnarvon Road' a'r ceir yn gyrru ar yr un ochr i'r ffordd 芒 ni. Gan fod lle yn gyfyng yno, ceir elevated walkways i'r pedestrians gerdded arnynt, yn yr ardal busnes.

Yn sicr yn Hong Kong gyda chymaint o bobl wynion mi oeddem yn diflannu yn y torfeydd. Er yn ddrutach na gweddill Tseina mae'n dal yn gymharol rhad er enghraifft gwnaethom wario ar drafnidiaeth gyhoeddus (tacsi, fferi, metro, bws) am 5 diwrnod ac mae cryno ddisgiau newydd yn 99 HK$ sef 拢7. Roedd yr arddangosfa The Hong Kong Story yn yr amgueddfa genedlaethol yn werth ei weld, gyda hanes y Rhyfeloedd Opium, meddiant Siapaniaidd a'r 么l-drosglwyddiad o Brydain i Tseina yn 1997.

Mae'r maes awyr wedi ei adeiladu ar dir sydd wedi ei ad-ennill o'r m么r. Y terminal yw'r un mwyaf yn y byd, a chredwch chi ni, mae'n mynd mlaen a mlaen ac mae gi芒t 86 yn o bell o'r duty free! Pan oeddem yn hedfan n么l gwelsom lawer o lefydd trwy ffenester yr awyren er enghraifft anialwch y Gobi, copaon mynyddoedd Himalaya, Siberia a gwastadeddau'r Steppes, yn amlwg uwchben y cymylau.

Nid oeddem wedi meddwl pan wahoddasom Yang atom i Bont Llogel dros y Dolig dair blynedd yn 么l y byddem ein dwy yn cael gwahoddiad yn 么l i'r wlad fwyaf yn y byd o ran maint a phoblogaeth. Roedd yn brofiad bythgofiadwy cael bod mewn gwlad wedi cyfrannu llawer i esblygiad gwlad fel yr ydym ni yn gyfarwydd 芒 hi heddiw erbyn hyn, sydd yn ymfalchio yn ei hetifeddiaeth ond hefyd yn darparu ar gyfer anghenion yr unfed ganrif ar hugain a byddwn yn siwr o glywed ychwaneg yn y blynyddoedd nesaf am Tseina.

Erthygl gan Annwen ac Angharad Richards


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人论坛 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy