Gan fod Nest yn rhifyn diwethaf y Plu wedi ein hatgoffa o Steddfod 1949 yn Nolgellau dyma rai o'm hatgofion 'Fyddwn i ddim yn dymuno steddfod arall fel hon'. Does gen i fawr a gof am y steddfod ei hunan ond yn sicr nid oedd cwt ieir bach yn ddelfrydol i bump! Nid oeddem yn codi fel ieir o bell ffordd - diogi yn y bore a rhai'n galw heibio i'n gweld a ninnau ein pump yn dal yn solet ar y glwyd. Roedd hi'n mynd yn boeth ddifrifol yn y cwt yn y nos a ninnau ofn cadw'r drws ar agor gan fod cwn yn dod heibio. Atgof Mai Court (Sturkey) oedd iddi golli'r swydd o wneud brecwast gan ei bod yn rhy hir wrthi a ninnau ar glemio! Edrych ymlaen am ddod adre i gael bath oeddwn i ond bu'n rhaid aros i'r pen - pawb ond Nest. Dihangodd honno efo Elwyn! Ni fyddwn yn recomendio wythnos mewn cwt ieir i neb, ond siawns fod merched ifanc yr oes hon yn gallach. Cafwyd barddaniaeth wedi'i sgwennu inni. Dyma'r cyfarchiad a anfonodd W.J. Richards, Derwenlas. Chwi geiliogod y colegau Ar 么l dod yn dyrfa lon I Eisteddfad fawr Dolgellau Ewch i ffermdy Tanyfron; Wedi cyrraedd yno'n llawen Mynnwch gael eich si芒r o hwyl Yn y 'Clwydle' mae pum cywen Wedi dod i dreulio'r Wyl. Nest, Eleanor a'r ddwy Ella Sydd 芒'u clodydd ym mhob man. A daeth Mai bob cam mi goelia Yno i nyrsia'r carwyr gwan! Os am anfon gair yn barod Cyn yr Wyl i'r cwmni llon Ar yr amlen rhowch 'Cywennod, Clwydle, Buarth Tanyfron. A dyma gyfarchiad Si么n Brydydd o Gemaes. Cyflwynedig i deulu Plas yr leir Lles i gynnes gywennod - yw dilyn Deialog eisteddfod; I'w hanian bur, da iawn bad Colegau di-geiliogod. Yn 么l Ceiriog yr oedd pabell eisteddfod fawr 'ffiffti wyth' yn Llangollen wedi'i thoi yn benigamp 芒 chlamp a wrthban gwlannen. Eithr mwy rhyfeddod lawer a welwyd yn Nolgelllau yn 1949!
|