"Dwi 'di bod i Wyl Cann ryw bedair blynedd yn olynol rŵan, a dwi'n meddwl fod pawb yn cytuno ei bod hi'n mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. i ddechrau, mae hi bob amser yn braf, sy'n gneud gwahaniaeth mawr i awyrgylch unrhyw ŵyl - pwy sy'n cofio Sesiwn Fawr Dolgellau yn y Glaw llynedd?! Yn ail, mae'r ŵyl yn gyfuniad perffaith o gymdeithasu ac adloniant ac yn ola, mae 'na awyrgylch unigryw i'w gael yn y Cann - croeso cynnes a phawb yn hynod o laid back (rhy laid back weithia'!).
Pan ofynnodd Arwyn Groe i fi 'sgwennu pwt o adroddiad am yr ŵyl, doeddwn i ddim yn siŵr iawn os mai fi oedd y person iawn i wneud.
I ddechrau do'n i ddim yna ar y nos Wener (ar noson Iâr felly methu dod), ac yn ail, dwi ddim yn dod o'r ardal. Doeddwn i ddim isho ypsetio darllenwyr Plu'r Gweunydd! Dwi'n gwybod fod na ambell un (gan gynnwys fy nghariad) yn teimlo fod 'na ormod o estronwyr yn yr ŵyl 'leni, gan mai rhywbeth i bobl yr ardal ydi Gŵyl Cann siŵr!! Nesh i a fy ffrindia diarth, hyd yn oed sgwennu limeric am y peth, ar gyfer yr
ymryson:
Yng ngŵyl Emyr Wyn roedd 'na syndod
Embaras a chydig o chwithdod,
Llond lle o gogs
Ynghanol y cogs
Byse'r dieeewl yn dweud fod 'ne ormod.
Oedd, mi oedd na dipyn ohona ni - ond dyna sy'n braf am yr ŵyl - mae pobl yn teimlo'n gyfforddus ac yn gartrefol ynddi'n syth.
Dyma oedd trefn y diwrnod i fi - dechrau drwy gael cinio tu allan yn yr haul tra'n cyfansoddi limrigau - ambell un yn well na'i gilydd (!). Yn amlwg, roedd angen diod neu ddau arnon ni gan fod y barddoni a'r haul yn ein gwneud yn sychedig. Wedyn symud mewn i'r babell ar gyfer yr Ymryson yn nwylo saff Mei Mac.
Ga'i longyfarch y meuryn am ddioddef heclo'r gwahanol dimau (yn enwedig un canwr sy'n rhannu'r un cyfenw â fi). Dwi wrth fy modd yn gwrando ar gynnyrch y beirdd, ac oedd, mi oedd y safon yn uchel iawn iawn eto 'leni. Yr uchafbwynt i fi oedd gweld fy mrawd hynaf Gwil, yn ennill y limerig - er ga'i nodi'n fan hyn ei fod wedi derbyn help ambell un o'r criw! Dyma fo'r gwaith buddugol:
Yng ngŵyl Emyr Wyn roedd 'na syndot
Yng ngŵyl Emyr Wyn roedd rhyfeddot
Yng ngŵyl Emyr Wyn
Yng ngŵyl Emyr Wyn
Yng ngŵyl Emyr Wyn mae 'na barot.
Do, 'naethon ni chwerthin lot, yn enwedig ar y beirdd o'r Gogledd oedd yn benderfynol o alw'r Cann yn Ciiiiien - gan ei bod yn trio swnio fel eu bod yn dod o'r ardal (ond yn trio'n rhy galed ella?!). Gwella 'naeth y noson wrth fynd yn ei blaen, efo perfformiadau gwych gan Gwyneth Glyn, Gai Toms a Caryl Parry Jones. Dwi 'di clywed si fod 'na ambell un wedi parhau i ganu tan 9 o'r gloch y bore wedyn, ond fedrai'm credu fod hyn yn wir(!).
Noson wych, ond yr ŵyl ddim ar ben eto! Dychwelyd i'r Ciiiien am ginio dydd Sul, cyn ymlacio a sgwrsio yn yr haul drwy'r prynhawn, yn hel atgofion a chwerthin am ddigwyddiadau'r noson gynt.
Eshi i'r oedfa yn y prynhawn hefyd (gan fy mod i'n hogan fach dda), a mwynhau gwrando ar y prifardd Tudur Dylan - ysgafn a diddorol oedd yn gweddu i naws yr ŵyl i'r dim.
Allan o'r oedfa, i wledd o farbiciw a cherddoriaeth - Gwibdaith Hen Frân yn yr haul poeth - be gewch chi well?! Diwedd gwych i benwythnos gwallgo'.
(Dwi'n ymddiheuro o flaen llaw am ddod â mwy fyth o gogs i Ŵyl Cann 2009...)