Ym 1981, gadawodd leuan Jones Mathrafal i fynd i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. 23 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae wedi dychwelyd i'r ardal ond yn dal yn gysylltiedig 芒'r Coleg Cerdd Brenhinol, fel Athro'r Delyn erbyn hyn. Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae leuan a'i wraig, Penny, wedi bod yn adnewyddu hen fwthyn a adawyd iddo wedi marwolaeth ei dad yn 2001. Ar 么l teithio'r byd gyda'i delyn am 20 mlynedd, mae'n teimlo fod yr amser wedi dod i ddod 芒'i grefft adref i'w rhannu gyda'r rhai hynny sy'n mwynhau cerddoriaeth glasurol. Mae bellach wedi adeiladu Ystafell Gerdd wych sydd wedi ei hychwanegu at ei fwthyn ger Meifod, sydd bellach yn gartref ysblennydd a chysurus. Mae'r ystafell a adeiladwyd gan grefftwyr lleol, o dan ofal Dani Lewis, 芒 lle i 80 o bobl eistedd ynddi. Mae'r lloriau a'r nenfydau wedi eu leinio 芒 derw, a bu'r saer ifanc Ed Watson Smythe o Feifod yn gyfrifol am lawer o'r gwaith coed. Ar Chwefror 27ain 2005 cynhelir y cyngerdd proffesiynol cyntaf yn yr Ystafell Gerdd, Tanyffridd. Y s锚r fydd yn cymryd rhan fydd y gantores wych Nerys Jones, y pianydd ifanc, disglair, Aeron Preston o Gaersws ac wrth gwrs, leuan, fydd yn cyfeilio i Nerys yn ogystal 芒 chyflwyno ambell unawd ar y delyn ei hun. Dilynir hyn gan swper blasus wedi ei goginio gan Lavinia Vaughan. Noson i ddathlu Dydd G诺yl Dewi, yn cynnwys talentau gorau Sir Drefaldwyn! Pris y cyngerdd a'r swper gan gynnwys gwin fydd 拢17.50. Ffoniwch 01938 500609 i archebu tocynnau.
|