成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Jennie Davies a John Edwards gyda chwsmer o flaen Yr Efail Atgofion am Efail y Foel
Ebrill 2009
Alwyn Hughes sy'n adrodd atgofion am John Edward Davies ag Efail y Foel

Fe gefais ymateb da iawn i'r 'Cynefin' diwethaf sef Cofio John Edward Davies, Gof olaf y Foel, a diolch am y sylwadau caredig. Y tro hwn, hoffwn barhau i drafod yr un testun gan rannu mwy o atgofion am y gof ag Efail y Foel.

Roedd gan Berwyn Davies, Bryn Banwy lawer o atgofion am John y Gof. Bu'n mynd i'r Efail ers yn ifanc iawn ac roedd yn hoff iawn o bwmpio'r fegin fawr er mwyn i'r gof gael gwres i drin yr haearn.

Talodd Berwyn deyrnged ganmoladwy iawn i'r Gof. Roedd yn dynnwr coes heb ei ail, yn gymwynaswr o natur dawel ac yn r锚l g诺r bonheddig yn 么l Ber. Roedd yn hoff o hwyl ac roedd ganddo chwerthiniad arbennig. Heidiai pobl yno, yn enwedig ar fore dydd Sadwrn, oherwydd yr adeg honno gweithiai dynion y Cyngor a'r coedwigwyr tan amser cinio. Ni wnai'r gof lawer o waith wedyn, mae'n debyg.

Clywais nifer yn deud ei fod yn grefftwr arbennig ac yn 么f gwych. Gwnai ei bedolau ei hun a deuai yr haearn gan A&A Peate, Llanfair. Yn 么l Ber roedd ganddo ddawn arbennig i drin ceffylau - ni fyddai'n gweiddi na chodi ei lais ac roedd yn medru tawelu ceffylau a fyddai o natur wyllt. Bu'n pedoli ceffylau a ddefnyddiai Berwyn i dynnu coed, hyd at ddechrau'r 1970au. Cofia Berwyn brynu ceffyl heb bedolau a gofynnodd i'r gof ei bedoli.

Gofynnodd John Edward beth oedd taldra'r ceffyl, a chafodd yr ateb pymtheg llaw a dwy fodfedd. Drannoeth, daeth i bedoli'r ceffyl ac roedd pob pedol yn ffitio'n union er na welodd y ceffyl ymlaen llaw!

Mae'n debyg mai ei ewythrod Dei a Wil a'i fodryb Jini oedd y rhai olaf o'r teulu i fyw yn yr Efail, tra teithiai John Edward yn 么l a blaen o'i gartref yn Llwyn.

Gwerthai'r gof bopeth o feiciau i botiau pi-pi ac roedd t诺'r Efail yn llawn dop o bethau. Roedd Berwyn yn cofio gweld hen delyn Evan Jones, Telynor y Waun Oer yno - tybed beth ddigwyddodd iddi? Roedd gan y gof ddwylo fel rhawiau a bysedd a'i blaenau'n sgw芒r. Roedd croen ei ddwylo'n galed fel lledr. Cofia Ber ef yn codi llond ei ddwylo o staplau allan o focsys mawr, heb deimlo eu blaenau pigog.

Roedd Dydd Llun yn ddiwrnod prysur iawn yn yr Efail, oherwydd galwai ffermwyr o Faldwyn a Meirion yno ar eu ffordd adref o'r Trallwm. Gwerthai beth wmbreth o netin ffensio ac roedd stoc enfawr o netin a phob math o nwyddau eraill rhwng yr Efail 芒'r ffordd fawr. Ar un adeg roedd hen feic 'penny farthing' yn pwyso ar wal yr efail gyda gwreiddiau'n tyfu drwy'r olwyn.

Yn yr oes honno roedd potsio samon yn gyffredin iawn a John y Gof a wnai'r gaffiau haearn i'w dal gan blygu pig neu ewin hen forch neu bigfforch a gwneud ad-fach ar y blaen i gydio yng nghnawd y pysgodyn. Bryd hynny roedd yn rhaid i Berwyn sefyll yn nrws yr Efail yn gwylio rhag ofn i blismon neu gipar ddod. Roedd gan John Edward ddau ddarn o haearn yn y t芒n ar yr un pryd - y gaff a darn arall i bwrpas gwahanol.

Os deuai rhywun heb ei ddisgwyl, cadwai'r gof y gaff o'r golwg yn y t芒n. Roedd dirwyon trwm am botsio bryd hynny, ac roedd ambell swllt am samon yn dderbyniol iawn ac yn newid o gig mochyn neu wningen.

Mae'n amlwg fod Berwyn a'r hen of yn ffrindiau mawr ac fe ddysgodd Berwyn lawer yn ei gwmni - hwyrach mai ganddo ef yr etifeddodd ei natur dawel, amyneddgar a'r unig wahaniaeth yw ei fod ef yn grefftwr gyda choed yn hytrach na gyda haearn. Cafodd yr anrhydedd i gario arch y gof ar ei siwrnai olaf - diolch yn fawr iddo am rannu ei atgofion gyda mi.

Yn 么l John Cae'r Gof, roedd John Edward yn medru llaw fer yn Gymraeg, ac roedd ganddo ef atgofion am bobl yn heidio i'r Efail i brynu beiciau neu i fynd 芒 batris 'wireless' yno i'w chargio. Cyfeiriodd John ato fel g诺r bonheddig yn ogystal.

Cofia ei frawd Glyn (Foelwyd gynt) resied o geffylau gwedd yn ymestyn o'r efail at y ffordd fawr, yn enwedig ar ddiwrnod gwlyb. Dyma waith i'r gof druan, a phawb arall yn medru cael sgwrs!

John Edward oedd berchen yr Efail yn Llanerfyl ar 么l i'w ewythr Wil farw. Ned Francis oedd y gof yno, yntau yn grefftwr fel y dengys gatiau haearn Tynllan, ger porth yr Eglwys. Symudodd tad John Edward o'r ardal ar 么l colli ei wraig cyn ail-briodi - ef oedd gof olaf Abergynolwyn.

Ysgrifennodd y diweddar Wil Davies, Machynlleth rai o'i atgofion am Efail y Foel a chawsant eu cyhoeddi yn y Plu yn 1981. Credaf eu bod yn werth eu hail gyhoeddi yma:

Ond rhaid mynd yn 么l i'r Efail. Trist yw cofnodi, wedi bron bedwar ugain mlynedd, y newid mawr sydd yno. Byddai'n ddiddorol mynd yn 么l i hanes adeiladu y t欧 a'r efail a'r beudy ar dir a brynwyd tua'r flwyddyn 1860.

Yr oedd Hen Efail yn y pentre cyn hyn ond tai a gofiaf fi ar y safle, sef Penrhiw. Y mae llawer o atgofion melys iawn yn dod yn 么l yn fyw iawn i'm cof wrth feddwl am yr Efail. Ddechrau'r ganrif yr oedd y tri brawd John, Dei a William yn gweithio yno, a digon o waith iddynt. Yr oedd stad Lord Powis yn codi llawer o dai ac ysguboriau y pryd hynny. Ar wah芒n i hynny, yr oedd holl geffylau'r ffermydd o Gwm Banw, Cwm Twrch ac i lawr i Langadfan yn dod yno i'w pedoli.

Cofiaf yn dda am gymaint ag ugain o geffylau wedi dod i'w pedoli ar yr un diwrnod, ac roedd y waggoners yn mwynhau cael diwrnod yn yr Efail, y rhan amlaf pan fyddai'n bwrw glaw a'r tywydd ddim yn caniat谩u gweithio ar y fferm. Gwaith caled oedd pedoli o fore hyd yr hwyr, yn enwedig ceffylau mawr cryfion, a'r rhai hynny heb fod bob amser yn llonydd iawn.

Ond byddai fy ewythr Dei yn siwr o roi cweir iawn iddynt pan fyddai ei amynedd yn dirwyn i ben a byddai'r ceffyl yn cofio amdani byth. Yr oedd amrywiaeth yng gwaith y Gof am fod seiri y Gerddi a Fronlas a Thynreithin yn dibynnu y pryd hynny am y gwaith haearn a fyddai yn gysylltiedig 芒'r cerbydau.

Byddai cylchu olwynion, yn enwedig os byddent yn olwynion newydd, yn cael ei wneud yn yr Efail, Pinnau Sgriws, Gears Shaft, Cylchu bothau. Byddai pob math o bethau yn cael eu trwsio, teclau a phadelli a chrochanau, ambell un eisiau troed newydd a'r cyfan a gofiaf imi wneud fel gof ydoedd gwneud S hook a Shutlink a fyddai ffarmwr yn ei roddi mewn tres os byddai yn torri. Cofiaf hefyd wneud p芒r o dresi o wialen hen bladuriau wedi rhoddi oes o wasanaeth.

Y ffermwyr yn dod a thua dwsin ohonynt i'r Efail, ac wedi tynnu'r llafnau oddi wrth y wialen yn ei gwneud yr un braffter a linciau. Yna gwneud rhyw ddwsin o linciau ar y tro, ac yno y darnau wrth ei gilydd hyd nes y byddai wedi dod i'r hyd priodol, ac yna rhoddi bach ar un pen iddi. Roedd hon, wedi'i chwblhau, yn un y gallech ei gwarantu am oes o wasanaeth.

Credaf, mae'r Efail ydoedd cyrchfan y mwyafrif o weision ffermwyr yn enwedig yn ystod y nosweithiau oerion y gaeaf, a chael taro efo yr ordd i wneud catiau llidiardau o hen bedolau a'r gwreichion yn goleuo'r lle..."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy