Ffrwyth llafur prosiect arbennig a sefydlwyd ddwy flynedd yn 么l oedd y mwyafrif o'r rhain - Drwy gyfrwng cyllid gan Gyngor Sir Powys, Coleg Powys a chyllid Ewropeaidd Amcan 3 llwyddwyd i roi hyfforddiant iaith i bobl yn y byd gwaith a hynny yn hyfforddiant dwys."Rydyn ni wedi bod yn ariannu ac arwain y prosiect hwn er mwyn i bobl yn y man gwaith wella ar eu sgiliau iaith Gymraeg ac i lawer ddysgu'r iaith o'r newydd", meddai Karen Williams, Swyddog Datblygu Personel Cyngor Sir Powys.
"Pwrpas y prosiect yw gwella gwasanaethau i'r cyhoedd, sicrhau mantais i fusnes neu well cyfleon gyrfa i unigolion sydd heb waith." Ychwanegodd, "ar 么l siarad efo'r myfyrwyr, rydyn ni'n hyderus ein bod wedi cael llwyddiant arbennig o dda."
Dywed Elin Jones, tiwtor-drefnydd y prosiect sut yr oedd y myfyrwyr wedi manteisio o ddysgu Cymraeg :
Nododd swyddog gweinyddol i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys ei bod bellach yn sgwrsio yn Gymraeg wrth roi cyngor i fudiadau Cymraeg a'i bod yn clywed llawer o Gymraeg ar y stryd yn y Drenewydd ers, iddi ddysgu. Nododd un arall, sydd wedi gadael ei swydd gyda Chyngor Sir Powys ers iddi ddechrau dysgu Cymraeg, ei bod wedi newid cyfeiriad ei gyfra ac yn mynd i ddechrau gweithio fel arweinydd Cylch Meithrin ym Maesyfed - gan basio'r sgil y mae wedi ei ddysgu ymlaen i genhedlaeth ifanc yn ardal.
Dywedodd un o'r myfyrwyr, sy'n gweithio fel ymgynghorydd datblygu gwledig, y byddai bod yn ddwyieithog yn ei helpu i ennill cytundebau wrth dendro am waith yn ogystal a bod yn allwedd wrth weithio efo cymunedau. Nododd sawl swyddog eu bod nhw'n siarad Cymraeg wrth eu gwaith bob dydd - ar y ffon gan fwyaf.
Yn 么l swyddog prosiect Glasu, defnyddio Cymraeg mewn cyfarfodydd gyda'r nos gan fwyaf y mae hi.
O safbwynt y Cyngor Sir - yn y maes Cynllunio, Tai a Iechyd yr Amgylchedd gallai rhai swyddogion weithio yn Gymraeg efo cleientau, rhoi cyflwyniadau yn Gymraeg ac ati, roedd llyfrgellydd yn nodi ei bod yn siarad Cymraeg efo plant sy'n dod i'r llyfrgell - a nifer yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg efo'r bos!
Yn 么l Gwilym Fychan, yr Aelod Portffolio Iaith Gymraeg, Powys yw un o'r ychydig rai a fentrodd ddefnyddio cyllid Ewropeaidd Amcan 3 er mwyn uwch sgilio pobl yn yr iaith Gymraeg. "Rydyn ni wedi medru gwella ansawdd gwasanaeth neu botensial yr unigolion i gael gwaith," meddai. "Yn sicr y mae'r dystiolaeth hyd yma yn profi gwerth y gwersi a gwerth y Gymraeg yn y rhan yma o'r byd.
"Dwi'n falch iawn for ELWa wedi gweld yn dda i ymestyn ar y syniad meddai, drwy greu 11 swydd i Gymry. Dwi'n hapusach fyth y bydd dwy swydd yn dod i Bowys - un ohonynt yn ychwanegol at swydd Elin Jones - y tiwtor presennol."
"Mi fydda i yn pwyso o fewn y Cyngor i sicrhau y bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ehangu - gan ei bod yn amlwg ddigon fod galw am y cyfle i ddysgu Cymraeg drwy gyfrwng y dull dysgu dwys.
"Ar ran y prosiect hoffwn ddymuno'r gorau i'r dysgwyr a fu'n cael eu arholi yng Nghanolfan laith Gregynog, canolfan a fydd yn dod yn fwy fwy pwysig wrth i'r gwasanaeth dyfu."
Er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth cysyllter 芒 :
Emma Savage, Swyddog cysylltiadau Cynorthwyol, Cyngor Sir Powys.
Ff么n: 01597 826728. Ffacs: 01597 826231. E-bost: emmasav@powys. gov.uk