Erbyn 1404 roedd Owain Glynd诺r i bob pwrpas wedi cyrraedd pinacl ei yrfa gyda'r than fwyaf o Gymru dan ei reolaeth. Rhesymol felly, oedd iddo alw cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd i Gynulliad Cenedlaethol. Pa le mwy cyfleus a chanolog na Machynlleth ac yno yn ystod yr haf yn y flwyddyn 1404 y cynhaliwyd Senedd Owain GIynd诺r pryd y cafodd ei goroni yn Dywysog Cymru.
Penderfynodd Pwyllgor Rheoli Canolfan Owain Glynd诺r sydd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r Senedd-d欧, fel rhan o'r Ganolfan, mai priodol fyddai dathlu 600 mlwyddiant yr amgylchiad hanesyddol yma mewn ffordd deilwng. Bu cydbwyllgor o gynrychiolwyr y Pwyllgor Rheoli gyda cynrychiolwyr o Gyngor Tref Machynlleth, Cynghorau Cymuned Bro Ddyfi ac ysgolion yr ardal ynghyd 芒 nifer o unigolion oedd wedi eu cyfethol, yn brysur dros y misoedd diweddaf yn paratoi at y Dathlu.
Agorwyd y dathliadau gyda Rali ar lawnt y Ganolfan ddydd Sadwrn Mehefin 26ain. Y gobaith oedd cael Mr Rhodri Morgan, Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd 芒 Llywydd y Cynulliad, Yr Arglwydd Dafydd Elis Tomos, a hanesydd adnabyddus i annerch. Yn anffodus ni allai Mr Rhodri Morgan fod yn bresennol ond cafwyd anerchiadau pwrpasol gan Dr Llinos Smith o Adran Hanes Cymru Coleg y Brifysgol Aberystwyth, Yr Arglwydd Dafydd Elis Tomos a Mr Cynog Dafis. Yn ystod y Rali cafwyd eitemau ar y delyn gan Rhiain Bebb. I gloi'r dydd cafwyd cyngerdd o safon uchel yn y Tabernacl gan ddoniau lleol, yn cynnwys C么r Gore Glas, Parti Meibion Dyfi, Lleisiau Hyddgen a nifer o unigolion. Trefnwyd y Cyngerdd gan ganghennau Bro Ddyfi Merched y Wawr.
Yn ystod y Rali agorwyd y Ganolfan hanes yn ei newydd wedd gan Yr Arglwydd Dafydd Ella Tomos. Ers 1981 bu'r Senedd-d欧 yn gartref i Ganolfan Hanes yn cyflwyno cefndir Owain Glynd诺r a'i ymgyrchoedd. Mae'r Pwyllgor rheoli yn paratoi cynlluniau i ail-ddatblygu'r Ganolfan Hanes ond ar gyfer y dathlu cafodd yr arddangosfa a luniwyd yn 1981 ei symud ac agorwyd yr adeilad i ddangos y paneli derw ar y muriau t欧 fewn, ac yna gosodwyd arddangosfa yn cynnwys panel yn dangos gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, paneli gan y Comisiwn Brenhinol dros Henebion Cymru yn dangos hen luniau o Fachynlleth a'r cylch ac yna Arddangosfa gan y Llyfrgell Genedlaethol ar Owain Glynd诺r ynghyd 芒 stiwdio Fidio yn dangos ffilm ar Owain GIynd诺r. Bydd yr arddangosfa yn agored hyd ddiwedd mis Medi ac estynnir groeso cynnes i bawb i ymweld 芒'r arddangosfa. Cafwyd grant oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri tuag at addasu'r Senedd-d欧 ar gyfer yr Arddangosfa.
Yna nos Fercher Mehefin 30ain cafwyd "Ymryson y Beirdd" yn y Ganolfan, gyda thri t卯m yn cystadlu, sef timau "Bro Ddyfi", "Y Cwps", a'r "Gwylliaid", gyda Prif fardd Tudur Dylan yn cloriannu'r beirdd a'u cynhyrchion. T卯m Bro Ddyfi a orfu.
Bydd y dathliadau yn dod i ben ganol mis Medi gyda darlith gan yr Athro Hywel Teifi Edwards ar "Owain Glynd诺r trwy lygaid y Beirdd". Mae'r ddarlith yn cael ei threfnu ar y cyd gyda Chylch Llenyddol Bro Ddyfi ac fe'i traddodir yn Tabernacl nos Lun, Medi 13eg, i ddechrau am 7.30 o'r gloch. I gloi'r dathliadau cynhelir "Noson gyda Dafydd Iwan" yng Ngwesty Penmaendyfi, nos Wener, Medi 17eg a bydd Ray Gravell yno hefyd i gynnal arwerthiant - dylai fod yn noson hwyliog a gwerth chweil! Bydd manylion pellach yn y Blewyn Glas yn nes ymlaen.
Ar 么l cael y dathliadau drosodd bydd y Pwyllgor Rheoli yn symud ymlaen gyda chynlluniau i ail-ddatblygu'r Senedd-d欧 ar linellau mwy cyfoes gan ddefnyddio offer technolegol electronig yn olrhain Hanes Cymru ac yn arbennig yn portreadu hanes ac ymgyrchoedd Owain Glynd诺r a'r Senedd yn 1404. Yn ogystal 芒 hyn bydd cynlluniau yn cael eu paratoi i wella'r cyfleusterau yn y Ganolfan ei hun, gan gynnwys cael lifft i'r llawr cyntaf er budd yr anabl. Mae cais am grant tuag at gostau paratoi'r cynlluniau wedi ei dderbyn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae'r cais wedi ei gytuno a disgwylir cadarnhad o'r grant yn fuan.