Dechreuodd Mudiad Sefydliad y Merched yn Stoney Creek. Canada, yn 1897 wedi i Mrs Adelaide Hoodless siarad 芒 chynulleidfa o 101 o ferched, gan argymell bod arddangosfeydd a darlithoedd yn ymwneud 芒 gwyddor cadw t欧 ar gael i fenywod.
Roedd Adelaide wedi colli ei phedwerydd baban, a theimlai mai ei hanwybodaeth o lendid ac o fwydo baban oedd yn bennaf gyfrifol am hyn.
Yn 1915, teithiodd Mrs Alfred Watt a oedd yn ysgrifennydd i Fwrdd Ymgynghorol Canada, i Brydain, ac fe ffurfiwyd y gangen gyntaf o'r Sefydliad yn Llanfair P.G, gan Marchioness Ynys M么n, a oedd yn ffrind i Mrs Adams, Plas Llysun, Camo.
Fe wahoddwyd rhai o fenywod Carno i'w chartref ym Mhlas Llysun un prynhawn ym mis Chwefror 1917, a dyna sut y bu i'r ail gangen o Sefydliad Y Merched gael ei ffurfio yng Nghymru.
Mae hi'n arwyddocaol, felly, bod Sefydliad y Merched yng Ngharno wedi bodoli'n ddi-dor ers 90 mlynedd.
Mae yna yn awr 23 o aelodau, ae fe fwynhawyd y dathliadau yn Mellington Hall.
Croesawodd Mrs Eluned Evans, y Cadeirydd, bawb yno, gan gynnwys cadeiryddion o'r gorffennol ac aelodau o Bwyllgor Gwaith y Sir.
Diolchwyd am y croeso gan Mrs Claire Newland, Cadeirydd y Sir, ac fe siaradodd Mrs Meirwen Hughes ar ran y cyn Lywyddion.
Dymunwyd llwyddiant i'r dyfodol gan Mrs Judith Hughes, Llanwnog, Cadeirydd Gr诺p Dyfi, ac wedi torri'r gacen ddathlu, fe gynigiwyd llwnc destun i ddyfodol y Sefydliad yng Ngharno gan Mrs Audrey Vaughan, Dolfor, Ymgynghorydd Sirol y Sefydliad.
Fe wahoddwyd Mr Glyn Iones, y tenor adnabyddus o Gemmaes, i ganu yn y dathliad, gan i'w fam a'i ddwy fodryb fod yn aelodau ffyddlon o'r sefydliad yng Ngharno am flynyddoedd lawer.
Mrs Dilys Hughes o'r Drenewydd oedd yn cyfeilio iddo ac roedd ei g芒n olaf 'The Holy City' yn ddewis addas iawn oherwydd fe genir 'Jeriwsalem' ym mhob digwyddiad pwysig o'r sefydliad.
Mae aelodau Sefydliad y Merched yng Ngharno nawr yn edrych ymlaen i ddathlu eu can mlwyddiant.