Mae Theatr Hafren ac Ysgol Theatr Maldwyn wedi cyfuno i gynhyrchu 'Llwybr Efnisien' a fydd yn mynd ar daith ar draws Cymru yn ystod yr haf.
Ysgrifennwyd y sioe, sy'n seiliedig ar stori Branwen yn Y Mabinogi gan Penri Robert, Derec Williams a Linda Gittins. Sail y stori yw'r garwriaeth rhwng Branwen, chwaer Bendigeidfran, a Matholwch, brenin Iwerddon. Y gobaith yw y bydd y garwriaeth yn arwain at heddwch a gwell dyfodol i Iwerddon ag Ynys y Cedyrn ond mae Efnisien, hanner brawd Branwen yn gynddeiriog wrth glywed am y briodas. Does neb wedi gofyn am s锚l ei fendith ac mae'n ystyried hyn yn sarhad personol. Yn ei wallgofrwydd, mae'n dial ar geffylau Matholwch ac mae'r dial yn y pen draw yn arwain at ddistryw y ddwy wlad. Er bod y chwedl yn hen chwedl mae'r cynhyrchiad yma a'i neges yn amserol. Cawn ein hatgoffa, wrth i ni ddilyn Llwybr Efnisien, fod sarhad yn parhau i arwain at ddial a distryw fel y gwelir yn rhyfeloedd yr oes bresennol.
Cwmni Theatr Maldwyn
Sefydlwyd Cwmni Theatr Maldwyn yn wreiddiol yn 1981 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Ers ei sefydlu mae'r Cwmni wedi perfformio o flaen cynulleidfaoedd lluosog gyda gwerthiant llwyr o docynnau ar gyfer sioeau yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd, Theatr Gogledd Cymru yn Llandudno a Phafiliwn Rhyngwladol Llangollen. Recordiwyd nifer o'r perfformiadau ar gyfer eu darlledu ar S4C.
Ffurfiwyd Ysgol Theatr Maldwyn ym mis Medi 2004 er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc yn y Canolbarth ddatblygu sgiliau theatr mewn dawns, canu ag actio yn y Gymraeg. Llwyddwyd i ddenu aelodau o bob cwr o'r sir i'r ymarferiadau wythnosol. Flwyddyn yn ddiweddarach ffurfiwyd gr诺p newydd ar gyfer ieuenctid rhwng 15 a 18 oed ac mi berfformiwyd y sioe 'Nia Ben Aur' yn Theatr Hafren, Y Drenewydd ac Ysgol Y Berwyn, Y Bala yn ystod Mawrth 2006.
Yn ystod Mai 2006 perfformiwyd 'Crib, Siswrn a Rasel' yn Theatr Hafren. Ysgrifennwyd a chynhyrchwyd y sioe, sy'n seiliedig ar stori Culhwch ag O1wen yn y Mabinogi gan Linda Gittins, Derec Williams a Penri Roberts. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf perfformiodd Ysgol Theatr Maldwyn mewn amryw o leoliadau.
Bydd perfformiadau o'r cynhyrchiad diweddaraf i'w gweld ym Mhafiliwn y Rhyl, Theatr Ardudwy Harlech, Y Stiwt Rhosllannerchrugog, Ysgol Y Berwyn, Y Bala a Theatr Hafren, Y Drenewydd (dau berfformiad). Dyma'r tro cyntaf i'r ddau gr诺p o fewn yr Ysgol Theatr i berfformio mewn un sioe. Dywedodd Sara Clutton, Cyfarwyddwr Theatr Hafren, "Mae'n braf a chyffrous ein bod yn cael y cyfle i ymwneud 芒 chwmni lleol talentog yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg".
Ar ran Ysgol Theatr Maldwyn dywedodd Penri Roberts, Cyd gyfarwyddwr, "Rydym yn ddiolchgar i Theatr Hafren ac i Gyngor Celfyddydau Cymru am y gefnogaeth ariannol tuag at y cynhyrchiad. Rydym wedi perfformio pob un o'n sioeau yn Theatr Hafren yn ystod y 25 mlynedd diwethaf ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda staff y theatr unwaith yn rhagor. Gan fod y cynhyrchiad yn gynhyrchiad ar y cyd gyda Theatr Hafren, medrwn ystyried y lleoliad yma fel ein `cartref theatraidd".
Dyddiadau'r perfformiadau yw:
Theatr Hafren, Y Drenewydd - Mai 19 a 20 (01686) 625007
Y Stiwt, Rhosllannerchrugog - Mehefin 16 (01978) 841300
Theatr Y Pafiliwn, Rhyl - Mehefin 23 0870 330 0000
Theatr Ardudwy - Mehefin 24 (01766) 780667
Ysgol Y Berwyn, Y Bala - Gorffennaf 1 - Siop Awen Meirion (01678) 520658.
Mae tocynnau ar gyfer y perfformiadau ar werth a gellir eu harchebu'n uniongyrchol o leoliadau'r daith. Cafwyd cymorth gwerthfawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Adolygiad o 'Llwybr Efnisien' o bapur bro Seren Hafren.