Cynhaliwyd ein cyfarfod Blynyddol ar Fai 19. Diolchodd Afona Williams, ein llywydd, i'r ysgrifenyddes Ann Owen, i Gwenan Jones ac Elinor Thomas fel trysoryddion ac i bawb o'r pwyllgor am eu cymorth yn ystod y flwyddyn. Cawsom adroddiad cynhwysfawr o'n holl weithgareddau yn ystod y tymor gan Ann ac adroddiad ariannol gan Gwenan yn dangos ein bod yn iach yn ariannol.
Llongyfarchwyd y rhai a fu'n fuddugol yn ystod yr Wyl Fai Genedlaethol. Daeth Mona Jones, Dorothy Pugh, Nanw Evans a Bronwen Jones yn gyntaf am fowlio a'r band yn gyntaf dan arweiniad Rhiain Bebb a oedd yn fedrus iawn am hitio'r poteli! Roedd Jane Owen hefyd wedi addurno bag oedd yn werth ei weld yn yr arddangosfa. Enillwyd cwpan cystadlaethau'r gangen gan dair yn gyfartal, sef Jane Owen, Sally Richards ac Ann Owen.
Cyflwynodd Mary Price ein Llywydd Cenedlaethol anrheg o werthfawrogiad i Afona am ei gwaith ar hyd y flwyddyn. Mynegodd ein tristwch oll ar ymadawiad Athena Lawson o'r ardal. Bu Athena yn aelod ffyddlon o'r gangen a dymunwn pob bendith iddi yn 么l yn ei hen gartref.
Cyflwynwyd tanysgrifiad o'r Wawr i Athena a rhoddodd hithau rodd werthfawr o debot mawr dur i'r gangen a gobeithiwn y gallwn gynnig paned iddi ohono rhywbryd yn y dyfodol. Cytunodd Mary i gymryd swyddogaeth llywyddu y flwyddyn nesa' yn lle Athena a Mairlynne Davies yn cymryd drosodd fel ysgrifennydd. Yr is-lywydd fydd Mair Jones gyda Gwenan yn parhau yn drysorydd ac Elinor yn is-drysorydd. Bydd Mair yn ein cynrychioli ar y Pwyllgor Gwaith a Gdfal, Delyth Rees ar Bwyllgor G诺yl a Hamdden ac Ann Lloyd Jones ar Banel y Cleifion. Y cysylltwyr eleni fydd Ceri Lloyd, Jackie Thomas, Bronwen Jones, Gwyneth Williams, Mair Jones a Marian Williams. Gohebydd y Wasg am eleni yw Olga Maiden.
|