Y cyngerdd arbennig hwn oedd penllanw blwyddyn o waith datblygu a weithredwyd gan y c么r yn ystod 2003. Diolch i gynlluniau trefnus y Cadeirydd Alun Jones, llwyddwyd i dderbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer cyfres o ddatblygiadau y bu'r c么r yn ffodus i elwa ohono. Roedd y nawdd yn cynnwys gweithdy eisiol gan Islwyn Evans a gwisgoedd newydd yn ogystal 芒 chomisiynu pedwar cyfansoddiad unigryw yn arbennig ar gyfer y c么r.
Manteisiodd y c么r ar y cyfle i wahodd ieuenctid yr ardal a gipiodd wobrau yn y gwyliau a'r eisteddfodau cenedlaethol i ymuno 芒 nhw er mwyn i drigolion Bro Ddyfi fwynhau eu perfformiadau llwyddiannus unwaith eto. Agorwyd y noson gan g么r cymysg CFfI Bro Ddyfi a fu'n fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc yn ddiweddar dan arweiniad Magwen Pughe. Wedyn daeth parti cerdd dant Ysgol Glantwymyn i ddiddanu'r gynulleidfa gyda'r darn a gipiodd wobr iddynt yn yr 诺yl Gerdd Dant yn Aberystwyth y mis diwethaf.
Cyfle yr unigolion oedd hi yn dilyn hynny a chafwyd perfformiadau efaru, canu gwerin, canu clasurol ac offerynnol ardderchog gan Louise Harding, Aneira Evans, Gwawr Jones a Meilyr Jones - y pedwar wedi ennill gwobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod ac Aneira wedi llwyddo yn yr 诺yl Gerdd Dant a Meilyr yn Eisteddfod Genedlaethol y CFfI hefyd.
Daeth 'Lleisiau Hyddgen' i'r llwyfan i gyflwyno'r darn a enillodd y wobr gyntaf iddynt ym Meifod a hawdd oedd gwerthfawrogi pam mai nhw aeth 芒 hi gyda'u perfformiad grymus ac amserol dan hyfforddiant Ann Fychan. Cafodd y gynulleidfa wledd o ddiddanwch gan Meinir Jones, Cemaes yn llefaru'r darn digri a ddaeth 芒'r ail wobr iddi ym Meifod a hawdd oedd adnabod stamp ffraethineb awdur y geiriau, lola Jones, Aberhosan arno.
Gwraig wadd y noson oedd Llio Penri James, athrawes gerdd Ysgol Bro Ddyfi, a chafwyd anerchiad naturiol, hwyliog a phwrpasol ganddi cyn cloi hanner cyntaf y noson gyda pherfformiadau cerdd dant o'r safon uchaf gan g么r yr ysgol - darnau a yrrodd ias i lawr gefn sawl aelod o'r gynulleidfa. Braint oedd cael mwynhau dyfnder o dalent ieuenctid Bro Ddyfi yn yr hanner cyntaf.
Yn yr ail hanner cafwyd tipyn o amrywiaeth wrth i G么r Gore Glas berfformio'r pedwar darn comisiwn newydd. Comisiynwyd beirdd lleol i gyfansoddi pedwar darn ar y thema 'Ysbryd Amser' yn ystod y gwanwyn eleni - y beirdd hynny oedd Dafydd Wyn Jones, Gwynn ap Gwilym ac Ann Fychan. Gwelsom bytiau ffilm o'r beirdd yn esbonio pa ysbrydoliaeth a gawsant i gyfansoddi'r cerddi ac yna bu Meinir Wyn, arweinyddes y noson, yn darllen sylwadau'r cyfansoddwyr cerddorol. Clywsom eiriau Eric Jones, Gareth Glyn, Robat Arwyn a Delyth Rees gan rhoi darlun dadlennol i'r gynulleidfa o'r ffordd y gweithiodd pob un mewn ffordd wahanol i greu darn creadigol unigryw. Perfformiodd y c么r y darnau 'Maldwyn - Dal dy dir', 'Ffair Machynlleth', 'Dawns Amser' a 'Dringaf y Mynydd' a derbyn cymeradwyaeth wresog iawn gan y gynulleidfa.
Roedd gan bawb farn wahanol yngl欧n a pha un o'r caneuon oedd eu ffefryn (gan gynnwys aelodau'r c么r) - arwydd calonogol fad y gwaith cyfansawdd 'Ysbryd Amser' yn apelio at bob oed a chwaeth. Bydd y darnau newydd yn dod yn rhan o raglen gerddorol y c么r o hyn ymlaen felly bydd cyfle eto i'w mwynhau drosodd a throsodd!
Diolch i bawb a weithiodd yn ddiflino i sicrhau fod y noson yn llwyddiannus ac i'r holl berfformwyr a roddodd eu gwasanaeth am ddim gan sicrhau bod y c么r yn medru trosglwyddo 拢1,000 i elusen Bobath Caerdydd, yr achos da a ddewiswyd i dderbyn elw'r noson. Cyflwynodd Iola Jones siec i Ganolfan Bobath ar ran y c么r o fewn dyddiau i'r cyngerdd. Bydd y c么r yn cael toriad dros y Nadolig ac yn ail ddechrau'r ymarferion ar nos Fawrth 6 Ionawr, ac mae'n si诺r bydd gan Magwen g芒n neu ddwy newydd i'w dysgu bryd hynny!