Mi fydda i wrth fy modd ymweld a chanolfan arddio o bryd i'w gilydd. Y drwg ydy, wrth gwrs fod angen poced di waelod neu rym ewyllys o haearn Sbaen!!
Ddiwedd mis Mai trefnwyd bod fy nghyfnither a'i g诺r yn ein cyfarfod ni'n dau mewn canolfan arddio nid anenwog oedd rhyw hanner ffordd rhwng ein cartrefi.
Roedd yn ddiwrnod hynod o braf a chawsom amser hyfryd a sgwrs dros bryd o ginio. Roeddwn i wedi addo'n bendant nad oeddwn am brynu'r un planhigyn na hadau na dim yno - ac fe wnes gadw at fy ngair.
Dim and rhyw ddeuddydd cyn hynny oeddwn i wedi gwario ar hostas - a pheledi lladd malwod hefyd (!!)
Ydw, dw i wrth fy modd yn edrych ar y blodau a'r planhigion ar eu gorau ond ar yr un pryd mae'n fy ngwneud yn ddigalon hefyd. Roeddwn wedi hau marigolds yn y t欧 gwydr yn gynnar er mwyn iddyn nhw gael cychwyn da and ddim yn rhy gynnar rhag iddyn nhw fethu.
Oeddan, roeddan nhw'n dod yn reit dda, wedi eu teneuo, a'u symud ymlaen. Fe blanais nhw allan ac ro'n i'n eitha balch o weld cychwyn blagur amyn nhw. Hynny ydy, roeddwn i'n eitha balch nes i mi weld y rhai oedd ar werth - yn flodau mawr melyn ac oren.
Yn ddigon mawr i ddeud `chi' wrthyn nhw! Dim and un enghraifft ydy hyena! Roedd y rhosod, y betsan brysur, y lobelia a'r geranium yn werth eu gweld - cystal ag unrhyw beth welid yn Sioe Chelsea dw i'n sicr.
Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen am odidowgrwydd y gwahanol flodau. Doeddwn i ddim yn diodde'n ormodol oherwydd roedd fy nghyfneither eisiau prynu rhai planhigion i'w gardd felly fe ges i'r pleser o edrych ar rinweddau'r gwahanol rai a dewis y gorau - doeddwn i ddim yn gorfod talu chwaith! !
Mae'n debyg bod un blodyn bach yn yr ardd yn werth dau fawn drud mewn siop. Erbyn hyn mae rhai pethau ar eu gorau yma. Er i sgyfarnog ddifrodi fy fiolas gaeaf, maent wedi ail dyfu ac yn blastar o flodau ar hyn o bryd ac mae'r rhosyn mynydd yn ei ogoniant er mai byr hoedlog ydy pob blodyn unigol.
Er i mi gael gwahanol fathau o droed y glomen ar un adeg erbyn hyn maent wedi croesi nes eu bod i gyd yr un lliw sef pinc tywyll; yn eitha tlws er i gyd yr un fath. Mae'r dahlia yn egino ac mae yna olwg am ychydig o wahanol bethau eraill yn nes ymlaen.
Y gyfrinach ydy dewis pethau sy'n addas i'r tir a'r hinsawdd yma ond mae'r lluniau ar y pecynnau hadau yn edrych mor ddeniadol yn tydyn?
|