成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Plant ysgol yn y Celtica Ar Daith Geltaidd cyhoeddi llyfr i ysgolion
Ebrill 2003

Celtica yw un o brif ganolfannau adnoddau addysg Cymru, yn canolbwyntio ar archwilio hanes yr Hen Gymry, y Celtiaid.

Eisoes mae gan y ganolfan ddehongli ac arddangos ym Machynlleth adnoddau rhagorol i addysgu a diddanu grwpiau o ddisgyblion ysgol sydd ar ymweliad 芒'r lle, ac yn ganolog i ddatblygu hyn ymhellach mae Celtica newydd gyhoeddi llyfr gwaith llawn lliw Ar Daith Geltaidd, a lansiwyd dydd Llun, 31 Mawrth 2003.

Mae'r adnodd addysg bywiog a deniadol hwn yn cynnwys gweithgareddau ymarferol i'w cwblhau gan ymweliad yr ysgol 芒 Celtica, yn arwain y plant trwy fywyd a thraddodiadau'r Celtiaid ym Mhrydain y Brythoniaid. Cynhyrchwyd y llyfr yn ddwyieithog Gymraeg a Saesneg, ac mae hefyd yn cynnwys gwaith all gael ei ddatblygu ymhellaeh gan yr athro a'r disgybl ar 么l dychwelyd i'r stafell ddosbarth.

Sgrifennwyd Ar Daith Geltaidd gan Gydlynydd Addysg Celtica, William Metcalfe, gan gysylltu'r llyfr 芒'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'i anelu'n bennaf at ddisgyblion cyfnod Allweddol 2 a 3, gan fynd i'r afael ag elfennau hanes, daearyddiaeth, mathemateg, celf, gwyddoniaeth, a thechnoleg.

Mae'r llyfr yn rhoi golwg lliwgar ac ymarferol i'r disgybl ar gredoau a thraddodiadau'r Derwyddon; bywyd beunyddiol y Celtiaid mewn tai crwn a bryngaerau; yr wyddor Ogham; trysorau a thystiolaeth archeolegol o Gymru, Prydain a thu hwnt. Hefyd trafodir celf y Celtiaid a'r ieithoedd Celtaidd; rhyfelwyr a chwedloniaeth; ynghyd 芒 duliau amaethu y Brythoniaid.

Gwahoddwyd grwp o blant ysgol o Ysgol Gynradd Machynlleth i Celtica i dreuilo'r diwrnod wedi eu gwisgo fel Brythoniaid, a rhoi Ar Daith Geltaidd at waith.

Dywedodd Fflur Fychan, athrawes yn Ysgol Gynradd Machynlieth:"Mae'r plant wedi cael diwrnod penigamp yn defnyddio Ar Daith Geltaidd, yn archwilio a dod o hyd i wybodaeth yn Celfica - heb s么n am wisgo fel Brythoniaid a chael eu wynebau wedi paentio! Mae'r llyfr yn adnodd addysgiadol defnyddiol i athrawon, gan ei fod yn trin a thrafod nifer o bynciau, nid dim ond y Celtiait. Mae'r llyfr yn lliwgar, wedi ei gynhyrchu'n dda, ac yn hawdd i'w ddefnyddio. Mae'n braf ofnadwy bod pob plentyn yn caei ei gopi ei hun i'w ddethyddio ymhellach yn y dosbarth."

Bydd grwpiau ysgol sy'n ymweld 芒 Celtica yn cael copi o Ar Daith Geltaidd ar gyfer pob disgybi. Gellir trefnu ymweliadau 芒 Celtica trwy gysylltu 芒 William Metcalfe 01654 702702.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy