Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd gweld injian st锚m wreiddiol yr ardal yn rhedeg unwaith eto ar hyd y cledrau. Adeiladwyd injian Corris Rhif 3 yn arbennig ar gyfer y rheilffordd yn 1878, ond ers 1951 mae wedi'i lleoli ar Reilffordd Tal-y-llyn. Croesawyd pawb i'r seremoni agoriadol gan Keith Davies, Cadeirydd Cwmni Rheilffordd Corris. Yn ystod y seremoni cyflwynwyd Bowlen Wydr hardd i David Coleman i ddiolch am y blynyddoedd o waith caled i'r rheilffordd. Cafwyd araith ddiddorol wedyn gan Lywydd Cymdeithas Rheillffordd Corris sef Christopher Awdry, mab awdur gwreiddiol llyfryn Tomos y Tanc. Dadorchuddiodd faen arbennig i gofnodi'r dathliadau. Yn ogystal, cafwyd araith gan y Cynghorydd Gretta Jones, a oedd yn cynrychioli Cyngor Cymuned Corris a Chyngor Sir Gwynedd. Teithiodd y gwesteion wedyn ar siwrne fer o Orsaf Corris hyd at Maespoeth, lle cafwyd sgwrs fer ar hanes y rheilffordd, ynghyd 芒'r gobeithion am y dyfodol. Yn ddiweddarach, cafodd y cyhoedd hefyd gyfle i deithio ar dr锚n bach Corris ac i ymweld ag arddangosfa o fodelau rheiIffordd yn Ysgol Gynradd Corris, i deithio ar dr锚nau bach bach a mwynhau arddangosfa o hen geir ac injian stem. Bydd y rheilffordd yn parhau i redeg gwasanaeth st锚m yn ystod y penwythnosau ym Mehefin. Am ragor o wybodaeth cysyllter 芒
|