Ers yr haf diwethaf mae Cathy Evans, un o weithwyr ieuenctid yr ardal, wedi bod yn cydweithio ag Ant Edwards o 'Gronfa Achub y Plant' ar brosiect fydd yn galluogi ieuenctid Bro Ddyfi i leisio'u barn yngl欧n 芒 sut mae pethau'n cael eu rhedeg, a'r math o gyfleusterau sy'n cael eu darparu'n lleol ar eu cyfer.
Mae nifer fechan o bobl ifainc sydd 芒 diddordeb wedi gweithio gydag Ant, Cathy a Clive Thomas, gweithiwr ieuenctid eraill, i lunio cyfansoddiad ac i lunio cais am arian i Cymunedau'n Gyntaf.
Arweiniodd hyn at gyflwyno'i hachos am arian o flaen Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi gan arwain yn y diwedd at benwythnos preswyl o hyfforddiant, Ebrill 21-23 yn Stackpole, Sir Benfro. Trefnwyd y penwythnos ar y cyd gan yr ieuenctid eu hunain, gweithwyr ieuenctid ac Ant Edwards.
Mynychodd naw o bobl ifainc rhwng 13-16 oed yr hyfforddiant. Cynhaliwyd sesiynau ar wahanol bynciau, gan gynnwys:
Nod ac a amcanion yr hyfforddiant Pa rinweddau fydd eu hangen ar aelod o'r fforwm Pa sgiliau fydd eu hangen ar aelod o'r fforwm Beth mae Pwyllgor Ieuenctid yn ei wneud Pa gyfleusterau sydd yn eich ardal, beth sydd ar goll a beth
fyddech chi'n ei newid neu'i wella Beth sy'n digwydd y dylid rhoi diwedd arno Materion a sut i ddelio 芒 nhw
Etholwyd prif bwyllgor gyda chadeirydd, is-gadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd, yn ogystal ag is-bwyllgor i drefnu digwyddiadau a chodi arian. Roedd cyfarfodydd cyntaf y prif bwyllgor a'r is-bwyllgor wedi'u trefnu ar gyfer y mis canlynol.
"Gweithio'n galed"
Trefnwyd ymweliad 芒 Heatherton Park, gyda gweithgareddau megis saethu 'paintball' a gwibgertio ar y pnawn Sadwrn, tra bod nifer o weithgareddau eraill yn digwydd ar y safle, megis saethyddiaeth, saethu laser a phytio.
Dywedodd Cathy, "Rwy'n hynod o falch o'r bobl ifainc; maen nhw wedi gweithio'n galed iawn yn ystod y penwythnos, ac wedi ymdrechu i gyd-dynnu yn ystod y sesiynau hyfforddi ac yn ystod y grwpiau 'gorchwylion'."
Mwy o Fachynlleth yma.
|