"Ar nos Sadwm 25ain o Hydref fe es i a gweddill o blwyddyn 6 i'r Tabernacl ar gyfer Noson Wobrwyo'r Belen Eira Binc. Roeddem yn mynd oherwydd ein bod wedi gwneud ffiim o'r enw 'Egni Gwallgof.
Ar y noson cefais ffrog newydd ddu, cymerodd i mi tua awr i baratoi ymlaen llaw. Roedd y diwrnod 25ain o Hydref yn wyntog ac roedd llawer o law yn disgyn.
Ar y diwrnod arbennig yma roedd fy ffrindiau a fi yn gyffrous iawn am weld y limosin pinc yma yn dod tuag at yr ysgol (dyna lle roeddem yn cyfarfod cyn mynd i'r Tabernacl).
Y noson honno roedd rhaid i mi a fy ffrindiau aros am hir i fynd yn y limosin pinc, and roedd yn werth i aros amdono.
Roedd tu mewn y limosin yn waw oherwydd dyna'r tro cyntaf i mi fynd mewn limosin. Y tu mewn roedd carped, teledu a balwnau hefyd. Roedd miwsig yn chwarae ac roeddem ni gyd yn siarad yn llawn cyffro. Roedden ni gyd yn teimlo ac yn edrych fel s锚r.
W'rth i ni ddod allan o'r limosin roedd llawer o bobl yn tynnu lluniau ohonon ni. Ar 么l i ni gerdded ar hyd y carped coch aethom i mewn i'r Tabernacl a chyfarfod 芒 phawb arall.
Roedden ni yn eistedd yn y rhes flaen ac roeddem yn edrych ymlaen i weld ein ffoilm o Ysgol Gynradd Machynlleth. Roedd ein ffilm yn dda oherwydd roedden ni wedi tynnu lliniau ein hunain ac roedd ein lleisiau i'w clywed.
Thema ein ffilm oedd arbed egni. Roedd Ilawer o ffilmiau diddorol, roeddwn i yn hoffi'r ffilm 'Pie'oherwydd ei fod yn ddoniol. Ar 么l gwylio'r ffilmiau i gyd daeth Lembit Opik a'r beirniaid eraill i'r llwyfan i gyhoeddi'r enillwyr.
Roeddem wrth ein bodd pan glywsom ein bod wedi ennill y drydedd wobr. Roedd hi'n noson arbennig!"
Gan Natasha Pugh Dosbarth 5/6H
|