Yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2005 derbyniodd Cyngor Machynlleth ddirprwyaeth ar ran mudiad "Senedd '04". Mae hwn yn fudiad gwirfoddol, di-biaid, wedi ei sefydlu yn 2004 i goffau chwe chan mlwyddiant Senedd Machynlleth. Ei amcan yw ailagor y Senedd fel fforwm ddemocrataidd barhaol. Mae'n credu y gellir gwneud hyn yn gyfansoddiadol ar sail y cynghorau cymuned ledled Cymru. Ar ran y ddirprwyaeth o 13 aelod, cyflwynodd y Parchedig Tegid Roberts Cadeirydd Senedd '04, bapur o 12 pwynt, ac yna bu trafodaeth gyffredinol. Dywedodd llefarydd ar ran Senedd '04: "Fe ddaethom o'r cyfarfod hwn gyda'r teimlad fod carreg filltir hanesyddol wedi ei chyrraedd. Yr oedd y drafodaeth yn adeiladol ac yn awgrymu mesur helaeth o gytundeb ar y posibiliadau. "Yr ydym yn edrych ymlaen at barhau'r drafodaeth 芒 Chyngor Machynlleth, sy'n sicr o fod a rhan allweddol yn y symudiad hwn.Teimlwn bellach y gallwn symud ymlaen yn hyderus i gychwyn trafodaeth a holl gynghorau cymuned Cymru." Ar 糯yl Ddewi 2005 byd Senedd '04 yn anfon amlinelliad o'i gynigion i bob cyngor cymuned gan obeithio y bydd hyn yn arwain at drafodaeth fanwl. Gellir gweld datblygiad syniadau Senedd '04 ar ei wefan a bydd y gymdeithas bob amser yn croesawuaelodau newydd.
|