Ers i'r prosiect gael ei sefydlu ym mis Chwefror 2009, mae gwirfoddolwyr newydd wedi cyfrannu eu hamser, eu sgiliau a'u harbenigedd er budd yr Institiwt a'r gymuned.
Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Ddatblygu Gwirfoddol Cyngor Gwynedd am 9 mis.
Mae'r Institiwt yn ganolfan gymunedol lewyrchus, mae caffi'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, ac mae ystafelloedd a chyfleusterau amrywiol ar gael i'w llogi sy'n golygu y gall amrywiaeth o ddigwyddiadau gael eu cynnal yno.
Gall y rhain amrywio o gyfarfodydd bychan neu gyrsiau addysgol i ddigwyddiadau cerddorol/drama gyda seddau ar gyfer 90 o bobl a'r gallu i gynnal digwyddiad fel gwledd briodas neu gynhadledd.
Mae hefyd yn cynnal clwb ar 么1 ysgol, clwb ieuenctid, ac mae cyfleusterau fel offer cyfieithu, ystafell gydag 8 cyfrifiadur, goleuadau llwyfan, bwrdd snwcer o'r 19eg ganrif a gardd tu allan sy'n ddiogel i blant ei defnyddio i'w canfod yno.
Dywedodd Elaine Owen, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli'r prosiect: "Prif nod y prosiect oedd cynnal yr Institiwt i'r dyfodol. Erbyn hyn, bydd modd i'r Institiwt gynnal ei hun heb ddibynnu gymaint ar grantiau.
Bydd yn helpu i sicrhau bod y bobl leol a'r defnyddwyr yn gyfrifol am redeg yr adeilad, ac felly bydd ei gynaladwyedd yn cynyddu.
O ganlyniad i hyn, datblygwyd rhestr o 32 o wirfoddolwyr sy'n cymryd rhan yn y gymuned hefyd."
Paul Cutress - Cadeirydd Ymddiriedolwyr Institiwt Cords: "Mae'r prosiect yn pwysleisio a hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli. Gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y cyfleusterau'n cael eu datblygu ymhellach - sy'n cael eu darparu ar gyfer y Gymuned gan y Gymuned, a'u hwyluso gan yr Institiwt. Gan fod y Gymuned yn gyfrifol am y Ganolfan, a'r ffaith eu bod yn cymryd rhan yn gweithgareddau adeiladu drwy wirfoddoli, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi elfin o falchder a hyder i'r gwirfoddolwyr a'r gymuned leol."
|