|
|
Roedd yr Orymdaith o Ganolfan y Tabernacl at gerrig yr Orsedd yn wledd i'r llygad gyda Seindorf Abergynolwyn yn arwain Swyddogion y Pwyllgorau, cynrychiolwyr Cyngor Tref Machynlleth a Chynghorau Cymuned Cadfarch, Carno, Corris, Glantwymyn, Llanbrynmair, Mawddwy a Phennal, baner yr Orsedd, disgyblion Ysgol Bro Ddyfi, cyflwynydd y Corn Hirlas a chyflwynydd yr Aberthged, ynghyd 芒'r Macwyaid a'r Gweinyddesau, yr wyth Gwladwr, Aelodau'r Orsedd, Meistresi'r Gwisgoedd, Cleddyf yr Orsedd a'r Derwydd Gweinyddol a'r Cofiadur. Ail agorwyd yr Orsedd gan Talog, y Derwydd Gweinyddol, a chanwyd Gweddi'r Orsedd gan Ap Meirion. Yn ei gyfarchiad o'r Maenllog mynegodd y pwysigrwydd o ddysgu'r iaith Gymraeg i'n ieuenctid er mwyn sicrhau dyfodol yr iaith. Mae'r ffaith bod Unedau Cymraeg yn agor yn ein hysgolion yn gam mawr ymlaen i sicrhau bod ein ieuenctid yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg - wedi'r cwbl mae dyfodol ein hiaith yn nwylo'n ieuenctid. Talodd deyrnged i'r rhai ym Mhowys a oedd yn gweithio i sicrhau bod y Gymraeg yn derbyn lle cyfiawn yn yr ysgolion. Er bod dirywiad yn y nifer o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf mae ar y llaw arall gynnydd yn y nifer o blant sydd yn siarad Cymraeg. Rhaid hefyd gwerthfawrogi cefnogaeth y rhieni di-Gymraeg. Cyfeiriodd hefyd at frwdfrydedd yr ardal i sicrhau llwyddiant Eisteddfod Powys Bro'r Blewyn Glas yn 2004. Wedi i'r Wyth Gwladwr ganu Emyn yr Orsedd, canwyd y Cywydd Croeso (a oedd wedi ei ysgrifennu gan Tegwyn Jones, Dinas Mawddwy) gan barti Cerdd Dant Ysgol Bro Ddyfi. Hyfforddwyd y parti gan Llio Penri. Perfformiwyd y ddawns flodau yn urddasol gan ddisgyblion o ysgolion Machynlleth, Glantwymyn, Llanbrynmair, Carno a Phennal ac roeddent yn edrych yn hardd iawn yn eu gwisgoedd newydd. Mrs Ceris Rees, Llanbrynmair a oedd wedi hyfforddi'r plant a diolch hefyd i Co-op Machynlleth am noddi'r blodau. Cyflwynwyd y Corn Hirlas gan Elen Jones, Dinas Mawddwy a'i Macwyaid, Iwan Evans a Huw Jones o Ysgol Dinas Mawddwy. Nerys Davies, Aberhosan a'i gweinyddesau Masara Sandells a Carys Sellman o Ysgol Corris oedd yn cyflwyno'r Aberthged. Estynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, y Cynghorydd Gwilym Fychan, groeso Bro'r Blewyn Glas i'r Eisteddfod. Eisteddfod Powys Bro'r Blewyn Glas 2004 fydd y pedwerydd i'w chynnal ym Machynlleth ers y cyntaf yn 1958. Cynhaliwyd Eisteddfod 1989 yng Nghanolfan y Tabernacl Machynlleth a dyna lle fydd cartref Eisteddfod Powys Bro'r Blewyn Glas yn 2004 lle cawn fanteisio ar yr holl adnoddau sydd gan y Ganolfan ardderchog yma i'w chynnig. Sicrhaodd y bydd Eisteddfod 2004 yn un i'w chofio gan ei fod yn hyderus bydd y rhaglen yn denu cystadleuwyr o bell ac agos. Tref hynafol Machynlleth yw canolbwynt ardal Bro Ddyfi, yr ardal hyfryd hon lle mae'r De a'r Gogledd yn cwrdd ac mewn dyddiau a fu bu'n ganolbwynt Cymru gyfan. Dywedir bod pob ffordd yn arwain i Rufain a chyfeiriodd at hen enwau strydoedd Machynlleth, sef Heol Gwyr Deheubarth, Heol Gwyr Gwynedd a Heol Gwyr Powys, felly gallwn ninnau ddatgan bod pob ffordd yn arwain i Fachynlleth. Mynegodd hefyd ei falchder bod gan yr ardal hon ganran uchel o bobl sydd yn siarad Cymraeg.
|
|
|
|
|
Cyhoeddwyd Prif Destunau'r Eisteddfod gan y Cofiadur, Si芒n Elan, tynnodd sylw at Gystadleuaeth y Gadair a'r Goron, Medal y Dysgwyr, cyfansoddi T么n i emyn o waith Ann Fychan, cystadlaethau dawnsio sydd yn cynnwys dawnsio llinell a'r gwobrau hael sydd yn cael eu cynnig yn y gwahanol adrannau. Canmolodd hefyd amrywiaeth y testunau a chyfeiriodd at gystadlaethau yn yr Adran Celf a Chrefft a oedd yn ymwneud 芒 dathliad 600 mlwyddiant Senedd-dy Owain Glyndwr y flwyddyn nesaf. Cafwyd anerchiad barddol gan Hedd Bleddyn cyn cau'r Orsedd a chanu Hen Wlad fy Nhadau.Parhaodd y dathlu gyda Chyngerdd Mawreddog yn y Tabernacl yn yr hwyr a braf oedd cael croesawu C么r Adlais o F么n o dan arweiniad Elen Keen. Mae'r C么r hwn yn adnabyddus ac yn enillwyr Cenedlaethol. Cafwyd rhaglen amrywiol ganddynt o ganeuon clasurol, caneuon gwerin a chaneuon cyfoes. Mr Trebor Lloyd Evans, Dolgellau oedd yr Unawdydd, ef hefyd yn enillydd Cenedlaethol, a mwynhawyd ei ddatganiadau o ganeuon o fyd yr opera a ffefrynnau ein cenedl. Cyflwynwyd yr eitemau gan Dilwyn Morgan yn ei ffordd unigryw. Braf oedd gweld cynulleidfa deilwng yn bresennol. Wrth ddiolch cyfeiriodd y Cynghorydd Gwilym Fychan at lwyddiant y Cyhoeddi a diolchodd yn arbennig i Mr Dennis Jones am drefnu'r Cyngerdd. Daeth y dathlu i ben gyda Chymanfa Ganu yng Nghanolfan y Tabernacl ar y Nos Sul o dan arweiniad Dr Aled Lloyd Davies, Yr Wyddgrug a'r organydd Tudur P. Jones, Tywyn. Defnyddiwyd Caneuon Ffydd yn y Gymanfa a chafwyd canu gwefreiddiol o emynau cyfarwydd a chyfoes. Llywyddwyd y Gymanfa gan Gadeirydd y Pwyllgor Cerdd, Mr Tecwyn Jones. Cymerwyd y rhannau arweiniol gan Canon Emyr Rowlands a thraddodwyd y fendith gan y Parch W. J. Edwards. Roedd y tair eitem gan G么r Gore Glas o Hafan Gobaith, Ave Verum, ar Tangnefeddwyr yn dyst o gyfoeth lleisiaur C么r a dawn ei harweinydd Magwen Pughe. Yn dilyn llwyddiant y penwythnos bydd y Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod ym mis Tachwedd i ddechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer 2004. Hoffent ddiolch am gefnogaeth yr ardal i'r Wyl Gyhoeddi ac maent yn gobeithio y bydd yr un cefnogaeth yn 2004 pan gynhelir yr Eisteddfod yn y Tabernacl rhwng 8 - 10 Hydref. Mae'r Rhestr Testunau ar werth oddi wrth yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Mrs Nerys Williams, Hafod y Grug, 6 Ffordd Mynydd Griffiths, Machynlleth, SY20 8DD - Pris y testunau yw 拢1 (+ pris cludiant 42c). Roedd Pwyllgor Maes a Threfn wedi bod yn gweithio'n galed yr wythnosau cyn y Cyhoeddi i sicrhau bod y tir o gwmpas cerrig yr orsedd yn dderbyniol ar gyfer y Cyhoeddi.Wedi'r Cyhoeddi mwynhawyd y Te Croeso yn yr Ysgol Gynradd a ddarparwyd gan y Pwyllgor Llety a Chroeso.
|
|
|
|
|
|