Yn ystod mis Hydref llynedd, bum yn ddigon ffodus i gael mynd i China am 8 diwrnod.
Bwriad y daith oedd i gerdded y wal fawr am gyfnod o 5 diwrnod, ac i hel arian i'r RNID (The Royal National Institute for Deaf People).
Cyn cychwyn ar y daith roedd yn rhaid i mi hel 拢2,500 i'r elusen.
Roedd tua 70 o unigolion o bob cwr o'r byd yn cymryd rhan yn y daith gerdded, a sawl elusen yn elwa o'r arian oedd yn cael ei godi gan bob unigolyn.
Er bod y wal yn ei chyfanrwydd tua 5,500 o filltiroedd o hyd, dim and rhannau ohoni buom yn gerdded - tua 40 milltir dros 5 diwrnod.
Cymerwyd canrifoedd i adeiladu'r wal, ac mae'n debyg bod rhwng 2 a 3 miliwn o weithwyr oedd yn gweithio ar y wal wedi eu lladd yn gwneud y gwaith peryglus yma.
Bob diwrnod, byddem yn cerdded rhannau gwahanol o'r wal oedd yn amrywio o rannau oedd wedi'u hadfer, i rannnau oedd yn dirywio a dim ond cerrig m芒n a rwbel oedd i gerdded arno.
Byddai hyd y teithiau cerdded yn amrywio bob dydd hefyd, yn ddibynnol ar ba mor hawdd (neu anodd!) oedd y rhan honno.
Yn sicr, un o'r diwrnodau anodda oedd y dydd Mercher, wrth i ni gerdded tua 7 awr mewn gwres llethol dros fryniau uchel ac yna i lawr i'r dyffrynnoedd trwy lwyni trwchus.
Bob nos, byddem yn aros mewn llety gwahanol ar gyrion y wal. Llety traddodiadol a syml oedd y rhan fwyaf o'r llefydd hyn, and roedd y trigolion lleol yn groesawgar iawn ac yn hapus i weld twristiaid yn yr ardal.
Wrth gwrs, bwyd Tseiniaidd oedd ar y fwydlen bob nos!
Daeth y daith i ben gyda dwy noson yn Beijing, prif ddinas China. Roedd hi'n ddiddorol gweld y gwrthgyferbyniad rhwng y Beijing newydd, modern a'r ardaloedd hyn a thlawd, and roedd pawb i weld yn fodlon eu byd.
Un o uchafbwyntiau Beijing oedd cael gweld stadiwm y `Bird's Nest' a adeiladwyd ar gyfer y gemau Olympaidd yn 2008, ac wrth gwrs, bargeinio am anrhegion yn y `Silk Market'!
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb wnaeth drwy fy noddi yn ariannol, neu gyfrannu ti gynhaliwyd yn y Llew Coch ddechrau'r haf. osodwyd gan yr elusen, llwyddais i godi 拢2,840.
Yn sicr, bu'r profiad yn un gwerthfawr iawn, ac un wna'i fyth anghofio.