G诺yr y cyfarwydd mai un o feibion disglair ardal Machynlleth oedd Evan, wedi'i eni yn Esgair-Goch, Pennal ar 27 Hydref 1836, a'i fagu yn y trydydd t欧 o chwech yng Nghraig-yr-henffordd ym mhlwy Penegoes ar gyrion Machynlleth. 'Un o Faldwyn ydoedd' medd Harri 'ond heb ormod o'r 'mwynder' a gysylltir 芒 meibion a merched y sir'.Gellid dweud yr un peth am un o chwiorydd Evan, Marged a briododd 芒 Lewis Richards, brawd Mary (Penrhos-bach) fy hen nain. Dyna'r dystiolaeth a gefais gan frawd hynaf mam, Willie a fu'n w芒s gyda'r hen wreigan ym Mhen-y-geulan, Penegoes cyn ei marw yn 94 oed yn Ebrill 1924. Roedd Lewis ei phriod wedi marw yn Awst 1884 yn 47 oed a doedd dim plant gan y ddeuddyn.
Ond doedd pawb o'r tylwyth ddim fel Evan a Marged yn 么l y s么n. Ni wn hyd yma beth fu hanes Mary a Jane, ond ymfudodd John i Venedocia, Ohio, talaith yr oedd William Bebb, un 芒'i wreiddiau yn Narowen fel John, yn un o'i sylfaenwyr. Gellwch droi i lyfrau W. Ambrose Bebb, Y Baradwys Bell, a Gadael Tir, ac i gyfrol Robin Chapman ar Ambrose, i gael yr hanes difyr. Brawd arall i Evan Jones oedd Thomas (efaill i John o bosib), hen daid y chwiorydd Bet, Cwrt, Pennal; ac Ann, Machynlleth, a David Jervis hefyd o'r dre.
Bydd raid imi adael y clymau teuluol am y tro a dychwelyd atynt y tro nesaf, er mwyn manylu yn awr ar gyfrol Harri Paffi. Wedi s么n am ddatblygiad Anghydffurfiaeth dywed Harri: 'Etifedd a lladmerydd yr Anghydffurfiaeth newydd hon oedd Evan Jones a threuliodd ei holl fywyd yn dadlau o'i phlaid. Mewn dyddiau pan oedd cofiannau gweinidogion yn ddwsin am ddimai mae hi'n syndod na chafodd gweinidog o galibr ac o gyfraniad E.J. gofiant iddo'i hun.
Yn rhifyn Gorffennaf 1906 o'r cylchgrawn The Christian ac yntau'n ymddeol o fod yn Weinidog eglwys frigog Moriah, fe'i disgrifir fel 'pregethwr tanbaid'. 'He is a distinguished Welshman. One would be glad if Englind knew him better'.
Wel fe ddaeth yn fwy adnabyddus oherwydd ym 1909 ef oedd y Cymro cyntaf i fod yn Llywydd Undeb Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr.
'Roedd E. J. yn 'ddyn papur newydd' wrth grefft, a chryn inc yn ei waed', medd Harri a mynd rhagddo i s么n am ei gyfraniadau lluosog oddi ar ei brentisio gydag Adam Evans ym Machynlleth, ag yntau gyda Lewis Jones, sefydlydd Patagonia yn dechrau cyhoeddi Y Punch Cymraeg ym 1858, ac yn golygu sawl papur wedi iddo ymsefydlu yng Nghaernarfon ym 1875 cyn mynd i Foriah roedd wedi gweinidogaethu yng Nghorris, 1867-72, a Dyffryn Ardudwy 1872 - 75. Bu ym Moriah am 31 o flynyddoedd.
Sonnir yn 'Dyn Lloyd George' am ei waith gwleidyddol, manylir ar ei lafur mawr ym Moreia, a cheir penodau ar 'Bwldog' Yr Hen Gorff, a Y dyn Evan Jones, lle mae Harri yn ei bwyso a'i fesur yn deg a chytbwys.
Diolch i Harri am ei gymwynas yn dwyn ar gof gyfraniad goludog y g诺r o Graig-yr-henffordd.
Ewch i brynu'r gyfrol bumpunt ac ewch i fynwent Machynlleth at gofgolofn Evan Jones a'i deulu a diolchwch fel finnau am wasanaeth y gwron i Grist a Chymru.
W.J. Edwards