Cynhaliwyd Dawns a Chinio yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi a daeth 160 ynghyd i fwynhau noson fythgofiadwy. Trefnwyd y digwyddiad gan Carys Jones, Maesterran a Sioned Pugh, T欧 Mawr. Cafwyd gwledd o fwyd wedi ei ddarparu gan AGPY Catering, Meifod a'i weini ar fyrddau oedd wedi eu haddurno yn ddeiniadol i gyd-fynd a thema coch ac arian y noson. Yn dilyn y bwyd ac i geisio cael gwared o'r holl galor茂au, cododd pawb i ddawnsio i gerddoriaeth byw y gr诺p lleol 'Retrospecs' a chafodd y noson ei harwain yn broffesiynol iawn gan Aled Griffiths. Gwnaethpwyd elw o 拢1330, a threfnwyd cyflwyniad o 拢665 yr un i Feddygfa Machynlleth a Meddygfa Glantwymyn. Hoffai Carys a Sioned ddiolch i bawb, yn deulu a ffrindiau am yr holl gefnogaeth a help i wneud y noson yn gymaint o lwyddiant. Cofiwch am y dyddiad y flwyddyn nesa' - Chwefror 12ed, 2005!
|