"Peidiwch a meddwl am eiliad mae fi wirfoddolodd sgwennu'r pwt yma i'r Blewyn Glas ar golli pwysau achos fi fase'r ola' i dynnu sylw i mi fy hun am hyn, o gofio `mod i wedi methu colli pwysau cyhyd!
Yn hytrach, cais gan Linda Davies, arweinydd y cylch "Slimming World" ym Machynlleth ydi hwn, clwb colli pwysau sy'n cwrdd yno bob nos Fawrth a lle bum yn aelod ers dros fwyddyn bellach.
Fedrwn i ddim gwrthod cais Linda, gan ei bod hi wedi bod yn cymaint o gefn i mi ac i lawer person arall hefyd. Felly, dyma roi meddwl ar bapur, a s么n ychydig wrthoch chi, ddarllenwyr y Blewyn glas am y weithred o golli pwysau!
Mi rydw i wedi bod ar ryw ddeiet ers cyn co', neu mae'n teimlo felly, a hynny am fy mod ar yr ochr fawr a deud y lleia'!
Weloch chi fawr o'i 么l yn y gorffennol, er imi, ambell waith, gael cryn lwyddiant.
Y troion y collais i bwysau a chyrraedd rhyw faint derbyniol a medru mynd i mewn i ddillad yn haws, yna roedd y ddeiet drosodd.
Ond, with gwrs, nid yn unig ro'n i'n ennill y pwysau i gyd yn 么1, roeddwn i hefyd yn ennill rhyw st么n neu ddwy yn fwy eto a feln'y y buodd hi am flynyddoedd.
Mi rydw i wedi gwneud yr esgusion arferol pam mod i'n fawr drosodd a throsodd wrth deulu, ffrindie a chyfoedion - "Babis bach, pobl mawr, 4 pwys a hanner o'n i pan ges i fy ngeni!" - "Mae o'n rhedeg yn y teulu" - "Fel hyn dwi i fod!" - "Dydi o ddim bwys be dwi'n fwyta, fedra i ddim bod yn fach!"
Roedd fy mhen yn y tywod yn llwyr a'r pwysau yn cynyddu a chynyddu. Aeth prynu dillad yn boen ac roedd dod o hyd i siop ddillad oedd yn gwerthu dillad mawr yn gamp.
Wedi dod o hyd i siop roedd cael dillad addas i fy oed yn saga arall! Am ryw reswm, doedd neb ar y ddaear yn fwy na maint 16 hyd nes eu bod ar eu pensiwn!
Pan ddaeth siop Evans i Aberystwyth, mi ollyngais ochenaid o ryddhad ac yn y fanno mi ges achubiaeth, gormod falle achos wedyn doedd y cymhelliad i golli pwysau ddim mor gry'.
Wedi'r cyfan, ro'n i'n medru cael dillad r诺an! Ond, erbyn imi gyrraedd y pwynt mod i angen y maint mwyaf yn y lle, a hynny ddim ar gael bob tro, doedd pethe ddim mor hwylus unwaith eto. Fy nhraed i oedd yr unig ddarn derbyniol o' nghorff i, a prynu sgidie yn bleser, and allwn i ddim byw ar sgidie!
Fy mhenglinie ddoth a fi at fy nghoed rhywfaint, hynny yw, cryd cymalau yn y penglinie a hwnnw ddigon drwg imi fod angen rhai newydd.
Doedd y pwysau yn helpu dim ar bethau ac mi es, am beth amser, i "Weight Watchers" and yn anffodus fe darawyd yr arweinydd yn s芒l a peidiodd y dosbarth ac, ar 么1 gwneud yn weddol, mi gollais fy ffordd.
Mi ges benglin, ac ro'n i'n medru symud mwy ac yn teimlo llawer iachach. Ond buan yr aeth y benglin arall i boenydio, ac arafu wnes i, cael cysur mewn bwyd a'r pwysau yn cynyddu unwaith eto.
Dyma pryd y cyrhaeddais bwysau na faswn erioed wedi dychmygu ei gyrraedd ddeng mlynedd ar hugain yn 么1. Roedd cerdded wedi mynd yn boen ac roedd yn amlwg i bawb mod i mewn trwbwl gwirioneddol.
Ond, peth od ydi'r meddwl, oblegid, er gwaetha hyn y gyd doeddwn i ddim yn gweld fy hun yn fawr, ddim yn erchyll o fawr beth bynnag, a beio y cryd cymalau o'n i am y diffyg yn fy ngherddediad llesg.
Cofiwch, mi roedd y cryd cymalau yn chwarae rhan fawr, and roedd y pwysau yn troi argyfwng yn greisis.
Mae plant weithie yn medru crisialu pethe, yn eu gonestrwydd diniwed. Mi gofiaf y syndod ar wynebau plant y Brithdir pan soniais wrthynt am fy nghyfnod yn chwarae hoci a phel-rwyd a dawnsio gwerin ar Iwyfan Steddfod yr Urdd.
Doedden nhw ddim yn meddwl am eiliad y baswn i wedi, medru gwneud y fath gampau! Dwi'n cofio dro arall dysgu dosbarth plant bach yn Ysgol Ieuan Gwynedd Rhydymain ac un o'r cymeriadau bach ymysg y criw
pump oed yn troi ata i ar ddiwedd dydd, ar 么1 fy llygadu o'm corryn i'm sawdl, a gofyn, "Wyt ti'n byta chips?", a finne'n ateb "Dwi erioed wedi coginio chips yn fy nghartref. Mi dafles y sosban chips yn 1979!" a medde fo wedyn y gwbwl argyhoeddedig, "Mae'n rhaid bod ti'n byta bara `te!"
Fe geith plant ddweud be fynna' nhw wrtho'i and chaiff pobl ddim gwneud sbort. Mae o wedi digwydd sawl tro ac wedi brifo fy nheimladau i and wnes i rioed ddangos hynny.
Yn aml iawn mi ddwedwn i y j么c cyn i neb arall gael cyfle ac mae gen i un rheol i bobl mawr fel fi, dim and y fi geith wneud short am fod yn fawr a neb arall. Mi gaf i wneud hwyl am fy mhen fy hun and chaiffneb arall wneud hynny. Sut oedd geiriau y gan honno anfarwolwyd gan Joan Baez "There, but for fortune, go you or I..." . Rheol bywyd i bawb.
Mae sawl tro doniol wedi digwydd imi, un y medrwn chwerthin a chwerthin amdano rwan fel y tro y methais roi y gwregys rownd fy nghanol wrth hedfan mewn awyren ac esgus i'r criw caban fy mod i wedi llwyddo.
Credwch fi, lwi'n gwybod be ydi "G force" achos fuodd bron imi godi'n glir o'n sedd wrth I'rawyren ddringo I'r awyr! A phwy oedd yr Einstein feddyliodd am weldio bwrdd a chadair wrth ri gilydd ar gyfer ein caffis ni? A pam o pam na all y Steddfod Genedlaethol sylweddoli y byddai cael un toiled yn llai yn y caban toiledau yn gwneud dim gwahaniaeth I'r bythol giwio yn y toiledau marched, ond yn rhoi chydig mwy o le yn y ciwbicl a gwneud byd o wahaniaeth I fi a sawl un arall!
Pryd a sut newidiodd pethe, meddech chi. Wel, uncynnig bach, yn garej Mallwyd, ddechre'r flwyddyn ddiwetha."Pam na ddoi di efo fi nos Fawrth nesa i 'Slimming World?' gan wraig sydd wedi llwyddo i golli pwysau ac i'w gadw. Petruso wnes i a dim rhoi ateb and fe arhosodd Barbara mynd allan o'r siop a mynnu ateb ac ro'n i'n gwybod na faswn i'n cael deud "Na".
Dwi'n si诺r bod rhai ohonoch chi'n gofyn 'Wel pam aflwyd ddaru hi ddim gwrando arno'ni?' Weithie mae'n haws derbyn rhywbeth gan un sydd wedi troedio yr un llwybr a chi. Dyna oedd o i mi, beth bynnag.
Mi gychwynnais fynychu "Slimming World" yn Ionawr 2007 a does dim troi n么l bellach. Mae'r Ilwyddiant wedi bod yn fwy na faswn i eril ddychmygu flwyddyn yn 么1.
Be sy wedi gwneud y gwahaniaeth meddech chi. Wel yn gynta', cefnogaeth Linda, a'i hiwmor dihafal, a'r criw yn y clwb a chefnogaeth cyson teulu a ffrindie.
Y noson gyntaf ddes i adref ar 么1 bod ar y cynllun bwyta geirie Elin Mair, fy nith, oedd, "Ti'n edrych yn llai yn barod, Mei! chware teg iddi! Yn ail, y dull o fwyta sy'n cael ei arddel yng nghynllun "Slimming World". Does dim dweud "na" am unrhyw fwydydd, and eich body n ymwybodol pa effaith a gaiff ar eich pwysau.
Un peth dwi wedi rhoi gorau iddo, a hynny am fy mod yn hoff iawn ohono, a hwnnw yw bara. Dwi yn cael ambell i ddarn pan fydda i yn bwyta allan and fydda i ddim yn prynu bara, mwyach.
Fel arall, dydi o ddim wedi bod yn loes o gwbwl. Mater odrefn yn1 fwy na dim ac mae'r cynllun yn rhoi llwyddiant ichi yn syth, a does dim yn llwyddo fel llwyddiant!
Mae o wedi newid fy mywyd achos r诺an dwi ddim ofn pa bellter sy' rhaid imi gerdded. Dwi ddim yn mynd i fy ngwaith i Ddolgellau yn gynnar, gynnar, fel y galla'i barcio wrth y swyddfa.
Yn wir, os nad yw'r tywydd yn wlyb iawn, mi barcia i y car yn y man pella' posib yn y maes parcio er cerdded y pellter mwyaf i'r swyddfa. Ac am y beic pedair olwyn, wel mae o llawer mwy segur na fuodd o!
Peidiwch meddwl am eiliad mod i'n siwpyr ffit, o na, and dwi cymaint gwell nag oeddwn i. A pwy wyr, efalle, rhyw ddiwrnod y bydda i yn medru cerdded i ben yr Wyddfa unwaith eto i weld y caffi newydd, pan fydd o'n barod!!
Be' nesa', dwi'n clywed chi'n gofyn. Does dim dewis, dim and dal ati hi. Efalle eich bod chi wedi sylwi, dwi ddim wedi defnyddio y gair "Deiet" ers dechrau'r pwt yma. Mae yna reswm am hynny, achos, dwi ddim yn galw hyn yn ddeiet.
Mae dweud y gair deiet, yn golygu i rai, ac i mi, yn y gorffennol fel rhywbeth yr ydech chi yn wneud am gyfnod yn unig cyn medru mynd yn 么1 i fwyta pob peth. Ond dyna oedd y camgymeriad. Ffordd o fyw ydi'r dull yma o fwyta ac mae'n ddull iach iawn yn ogystal. I fedru cadw fy mhwysau i lawr, ac i golli mwy, achos dydw i ddim wedi cyrraedd fy nharged, mi fydda i angen cadw at y cynllun bwyta yma dwi wedi ei fabwysiadu i mi fy hun y pymtheg mis diwetha', a fydd o ddim yn anodd. Mi fydda i yn ei wneud ddiddorol ac yn ei fwynhau."
Ysgrifenwyd yr erthygl gan Meinir Wyn