Braf iawn yw llongyfarch David Jervis Jones ar dderbyn dwy wobr bwysig iawn ym myd amaethyddiaeth yn ddiweddar.
Derbyniodd Wobr Goffa John Gittins 2009 a Gwobr Goffa George Hedley 2009 am ei gyfraniad arbennig iawn i ddiwydiant defaid Cymru.
Y mae yn fwy o gamp am iddo ennill ddwy wobr yn yr un flwyddyn, rhywbeth na ddigwyddodd o'r blaen erioed.
Y mae wedi treulio dros 50 mlynedd yn y diwydiant gwlan yn cynnwys 24 mlynedd yn rheoli 4 Rhanbarth y Bwrdd Rheoli Gwlan.
Fel Rheolwr Rhanbarth yr oedd yn gyfrifol am gynnal safonau a hybu newidiadau technolegol i wella safonau graddio gwlan.
Bu yn ran o sefydlu system graddio gwlan organig a bu'n allweddol wrth greu rhaglen hyfforddi Bwrdd Marchnata Gwlan, rhaglen llwyddiannus iawn sydd wedi gweld dros 5000 o ymgeiswyr yn derbyn hyfforddiant.
Yn 么l y beirniad y mae gwybodaeth David Jones o'r diwydiant gwlan yng Nghymru a thu hwnt yn unigryw.
Llongyfarchiadau mawr iawn i chi.
|