Fel arfer cysylltyr Tachwedd 5ed gyda Guto Ffowc a Noson Tan Gwyllt.
Ond pan aeth Wil Lloyd Williams i gwrdd 芒'r Frenhines ym Mhalas Buckingham i dderbyn ei MBE am ei gyfraniad i'r Diwydiant Cig ar Dachwedd 5ed eleni fe achosodd dipyn o `Dan Gwyllt' yn ei ffordd unigryw ei hunan!!
I'r rhai hynny ohonom sydd yn taro i mewn i brynu cig yn Siop Wil, ym Machynlleth, rydym yn gwybod am un peth sy'n rhan annatod o'i gymeriad, sef y beiro sydd wastad yn eistedd ar ei glust a does yr un ohonom wedi meddwl dim mwy am y peth.
Mae Wil yn dipyn o gymeriad a gwelodd ei gyfle i ehangu ei fusnes i werthu twrci neu ddau tua Llundain a rhaid felly oedd bod a beiro yn barod i cymryd archeb!
Roedd wedi cysylltu 芒'r Palas o flaen llaw rhag peri dim embaras gan egluro mor hanfodol oedd y beiro ar y glust i'w waith fel cigydd a chafodd gadarnhad fod bob dim yn iawn.
Dilyn yn 么l ei dad a'i daid y mae Wil, ac y mae yn falch o gydnabod hynny gan ddweud fod ei ddyled yn fawr iawn iddynt.
Sefydliwyd y busnes ym 1959 gan ei daid a thros y blynyddoedd y mae wedi datblygu gan ehangu'r siop ac yn fwy pwysig efallai wedi gallu cadw ac ehangu'r lladd-dy pan yr oedd yn rhaid i nifer helaeth gau oherwydd rheolau caeth.
Y mae Wil wastad wedi ymgyrchu dros gynhyrchwyr lleol ac yn sgil hynny wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd.
Y mae hefyd yn gefnogwr brwd o bob dim yn ei filltir sgwar.
Llongyfarchiadau mawr iawn iddo ar yr anrhydedd.
|