Penblwydd yr hynafgwr hynaws, Lewis Lewis, yn gant oed.
Cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolch i ddechrau a hynny yng ngofal y Parch Megan Williams, Dolgellau, un y mae o mor werthfawrogol ohoni bob amser. Cyfeiliwyd gan Elwyn Evans. Dilynwyd hyn 芒 chyngerdd byr pryd y daeth rhai o gantorion amlwg y fro i'r llwyfan, sef Mair Roberts a Gwilym Bryniog a gododd y to 芒'u canu gwefreiddiol, ac Eluned Roberts yn cyfeilio.
Unwyd 芒 nhw i ffurfio pedwarawd gan y canwr o Dan y Coed, John Pugh, ac ni swniodd "Cotemor" erioed yn well. Roedd y beirdd wedi bod wrthi hefyd, a darllenodd Gwen Williams benillion a gyfansoddwyd yn arbennig i gyfarch Lewis Lewis ar ei ben blwydd. Eisteddodd dros gant i lawr wedyn i fwynhau te parti ardderchog wedi ei baratoi gan ferched y pentref.
Gwnaed y gacen ben blwydd gyfoethog a hardd gan Delyth (Pen-y-meini gynt). Safodd Lewis Lewis ar ei draed i ddatgan ei ryfeddod a'i ddiolchgarwch am y fath brynhawn godidog. Roedd ei lygaid yn pefrio o lawenydd ynghanol ei holl ffrindiau ac yr oedd ei gwpan yn llawn.
Wedi derbyn dros 200 o gardiau mae o'n dal i ddarllen! Ac rydyn ninnau'n dal i ryfeddu at wyrth ei fodolaeth hawddgar.
Gweddi yr holl ardal yw iddo gael mwynhau blynyddoedd eto o iechyd a hoen, ac iddo barhau i ledaenu y doethineb, yr anwyldeb a'r llawenydd sy'n rhan mor annatod ohono. Pen blwydd hapus iawn i chi Lewis Lewis oddi wrth holl ddarllenwyr Y Blewyn Glas.
|