"Unwaith eto cafodd cefnogwyr Bryn F么n a'i Fand noson i'w chofio yn y Ddawns Nadolig. Erbyn hyn, gallwn gadarnhau y bydd Bryn F么n yn dychwelyd i Fro Ddyfi ac yn awyddus iawn i wneud hyn yn achlysur blynyddol ar y nos Sadwrn cyn y Nadolig - sydd wedi profi'n amseriad delfrydol i bawb. Braf gweld trawsdoriad o bob oed yn cymdeithasu a chydfwynhau, a braf oedd clywed Bryn F么n ei hun yn canmol y gynulleidfa fel "criw clen". Gadawodd brwdfrydedd y bobl Ifanc gryn argraff arno ar y noson. Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n helpu ar y noson - Nia Griffiths, Mark Lewis a Gwilym Fychan. Hefyd diolch i staff y Ganolfan Hamdden am eu cymorth parod i werthu'r tocynnau. Gwerthfawrogir eich cefnogaeth chi i gyd fel cynulleidfa i wneud y noson yn un mor llwyddianus. Bu'n bleser cael trefnu'r achlysur. Noddwyd y noson gan Awdurdod Datblygu Cymru." Erthygl gan Emyr Pughe
|