Dyma'r adeg o'r flwyddyn pryd bydd nifer o bobl gan gynnwys rhai o drigolion Bro Ddyfi yn dianc am wyliau yn yr haul. Mae rhai o'r ardaloedd mwyaf poblogaidd yma yn cynnwys Ynysoedd Canaria sydd i'r gorllewin o Affrica. Mae nifer o ynysoedd yn y Canaria megis La Palma, Fuereventura, Hirrero, Lanzarote, Gran Canaria a Tenerife ac yn agos i arfordir deheuol Tenerife mae'r ynys fechan a phrydferth, La Gomera. Mae La Gomera, fel yr ynysoedd eraill wedi elwa yn economaidd yn dilyn twf a llwyddiant y diwydiant twristiaeth. Un o'r rhesymau am hynny yw fod Ynysoedd y Canaria yn mwynhau tywydd braf drwy'r flwyddyn ac mae'r diwydiant yn brysur o Ionawr tan Rhagfyr. Erbyn hyn mae'r brodorion yn dychwelyd i'w cynefin yn hytrach nag ymfudo i edrych am waith fel y bu raid iddynt wneud yn ystod y ganrif ddiwethaf. Golyga hefyd bod mwy o ymwybyddiaeth a phwyslais ar atyniadau naturiol, hanes a diwylliant. Ar ynys fechan La Gomera gwelwyd atgyfodiad, mewn dull diddorol iawn, o hen iaith a fu bron 芒 marw. Mae'r iaith Silbo yn unigryw gan mat iaith llafar chwibanu yw. Chwibanu'r iaith yn hytrach na'i siarad wna'r Silbadoriaid a gellir cynnal sgwrs dros bellter o rai milltiroedd - effeithiol a defnyddiol mewn ardaloedd anghysbell a mynyddig. Mae'r iaith Silbo yn cynnwys pedair cytsain a phedair llafariad gyda geirfa o dros 4,000 o eirisu. Tarddiad y gair "Silbo" yw "Silbar" sef y ferf "chwibanu" yn y Sbaeneg. Credir mai ymsefydlwyr cynnar o Affrica ddaeth 芒'r iaith i La Gomerra a hynny dros ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn 么l, ond llai na degawd yn 么l dim ond ychydig prin o hen bobl oedd yn medru'r iaith. Daeth tro ar fyd ym 1999 pryd penderfynodd senedd La Gomera i orchymyn pob ysgol i ddysgu elfennau sylfaenol Silbo i bob disgybl dan 14 oed. Heddiw mae tua 3000 o blant yn cael gwersi o hanner am wythnos ac mae'r fenter yn llwyddiant. Efallai mai y rheswm am hynny yw fod swyddogion a gweinidogion addysg yn mynnu nad disgyblion i sefyll arholiad ond yn hytrach cynhelir cyfarfod cystadleuol rhwng holl ysgolion yr Ynys - hynny yw, Eisteddfod Flynyddol Silbo gyda'r plant buddugol yn ennill y wobr sef wythnos o wyliau yn Sbaen. Mae'r llwyddiant ymysg y bobl ifanc yn amlwg ac mae wedi creu hwb arall i atyniadau'r diwydiant twristiaeth ac i Adran Treftadaeth Hanesyddol llywodraeth Canaria. Mae dwy gynhadledd ryngwladol eisioes wedi eu cynnal yn La Gomera sef Cynhadleddau Ieithoedd Chwibanu ac fe ddenwyd arbenigwyr led led y byd. Mae arwyddion o ieithoedd chwibanu tebyg i Silbo wedi eu darganfod mewn ardaloedd yng ngwledydd Groeg, Twrci, Mexico a Tseina ac mae astudiaeth arall yn edrych am arwyddion o'r iaith yn Cuba, Venezuela a Texas, ardaloedd lle bu yn draddodiad i bobl La Gomera ymfudo yn ystod cyfnodau o dlodi a chaledi economaidd. Mae'r iaith Silbo yn seinio fel adar yn canu ond mae'n debyg nad oes gan hynny ddim byd i wneud ag enwau'r ynysoedd - Y Canaries!
|