Ar Sadwrn, Mai 2i1, cynhaliwyd aduniad arbennig o fechgyn ysgolion Uwchradd Machynlleth a'r Drenewydd yng Nghanolfan Gymdeithasol Trefeglwys.
Ym 1966 teithiodd 17 o fechgyn a 4 athro i Wlad yr I芒 ar antur o wersylla ac astudiaethau daearegol, cymdeithasol a bywyd gwyllt dros gyfhod o 3 wythnos.
Hwn oedd y grwp cyntaf o Gymru i ymgymryd a'r fath fenter a bu'n un llwyddiannus iawn. Trefnwyd a chymerwyd gofal am y daith gan John Davies a Hywel Mathews (athrawon Addysg Gorfforol a Daearyddiaeth ym Machynlleth) a Roger Lovegrove a Basil Davies (athrawon Addysg Gorfforol a Chymraeg yn Y Drenewydd).
Trefnwyd yr aduniad eleni gan fod y mwyafrif o'r bechgyn yn dathlu eu penblwydd yn 60 oed yn ystod y flwyddyn hon a bu'r achlysur yn un hapus iawn ac yn gyfle i bawb i ail-fyw hen atgofion ac i ail-gynnau hen gyfeillgarwch.
I goroni'r cyfan roedd pob un o deithwyr 1966 yn bresennol yn yr aduniad, llawer ohonynt wedi teithio o bell er mwyn cael bod yno. Roedd eu sylwadau yn datgan yr argraff fawr a adawodd y daith arnynt, nid yn unig yn addysgiadol and hefyd yn natblygiad eu cymeriad a'u haeddfedrwydd.
Mynegodd nifer ohonynt eu bod yn teimlo'n ddyledus iawn i'w rhieni, y pedwar athro a'r ddau brifathro (Mr Glyn Jones, Machynlleth a Mr Nelson Jones, Y Drenewydd) am eu gweledigaeth a'u menter `nol ym 1966 i ymgymryd a chefnogi gweithgareddau mor anghyffredin ac unigryw.
Rhes Gefn: Dave Corfield; Dave Thorn; Trevor Jarman; Philip Hopkins; John Rowlands; Ian Pierce; David Nobes; Les George; Richard Knight Williams; Gordon Lloyd; Gwyn Fleming.
Rhes Flaen: Hywel Mathews; Murray Owen; Jeff Edwards; Roger Lovegrove; John Davies; John Pugh; Alan Thomas; Peter Jones; Colin Jones; Basil Davies.
|