Cafodd y maes chwarae newydd ei ddadorchuddio'n swyddogol i'r disgyblion ac yn ymuno 芒'r disgyblion yr oedd cyfeillion yr ysgol a fu'n chwarae rhan bwysig yn datblygu maes chwarae'r ysgol yn arbennig ar gyfer plant Pennal.
Roedd y dathliad i agor y maes chwarae yn swyddogol yn cofnodi cwblhau prosiect 拢4,000 fel rhan o raglen 拢3 miliwn Supergrounds.
Cafodd Supergrounds ei lansio ym mis Medi 2004 fel rhaglen i wella tir ysgolion dan nawdd NatWest dan reolaeth Learning through Landscapes mewn partneriaeth 芒 Groundwork OK i wneud gwahaniaeth parhaol i amgylcheddau dysgu plant.
Cafodd Supergrounds ei ddatblygu gan NatWest i gryfhau'r cysylltiadau rhwng staff y Banc a'u cymunedau, gyda'r staff yn enwebu ysgolion y mae ganddynt gysylltiad 芒 nhw.
Fe ddaeth Ysgol Pennal yn rhan o'r cynllun trwy enwebiad Bethan Jones, Swyddog Gwasanaethau i Gwsmeriaid NatWest yng nghanghennau Machynlleth a Thywyn ac sy'n rhiant yn yr ysgol.
Dywedodd Bethan Jones: "Fel rhiant rwy'n gwybod cymaint o wahaniaeth y mae maes chwarae fel hyn yn ei wneud i fywydau'r plant ac rwy'n ofnadwy o falch fod y Banc, trwy Supergrounds, wedi gwireddu breuddwyd yr ysgol."
Meddai Mr Emyr John, Pennaeth Ysgol Pennal: "Yn raddol mae ein maes chwarae yn cael ei drawsnewid ac mae'r gwelliannau yn gwneud gwersi ac amser chwarae yn fwy diddorol ac yn golygu bod y plant yn gallu meithrin diddordebau a sgiliau newydd wrth chwarae.
"Rydym yn ddyledus dros ben i NatWest ac yn arbennig i Bethan Jones. Heb ei diddordeb a'i hargymhelliad hi ar y cychwyn cyntaf, a chefnogaeth Supergrounds a 'Learning Through Landscapes' ar 么l hynny, fe fyddai wedi bod yn anodd i ni fynd 芒'r maen i'r wal.
"Diolch byth, bydd y gwelliannau yn sicrhau bod gennym rywbeth i'w drosglwyddo i ddisgyblion y dyfodol."
|