Bu dathliadau 50 mlynedd y Sioe yn llwyddiannus iawn er gwaethaf y tywydd a gafwyd yn arwain hyd at Ddydd Llun, Gwyl y Banc 25 o Awst.
Dechreuodd y diwrnod braidd yn llwydaidd ond fe wellodd y tywydd a chafwyd amser llawn hwyl gan bawb o bob oed.
Fe ail-drefnwyd y cae i alluogi cael y ceffylau ac roedd yr adran 芒 chefnogaeth dda.
Gwelwyd dychweliad yr adran ddefaid ar 么l y dafod las llynedd a chafwyd lu o ddosbarthiadau.
Fe aeth popeth a drefnwyd ar y cae Ymlaen, a death tyrfa o bobl i gefnogi.
Roedd y Sioe Gwn yn boblogaidd gyda dross 100 yn cystadlu.
Cafodd Brenhines y Carnifal ei thywys trwy'r pentref i gae y sioe gan Fand Arian Abergynolwyn gyda'r hen dractorau yn dilyn.
Agorwyd y sioe yn swyddogol gan ddau aelod o bwyllgor y sioe 50 mlynedd yn 么l, sef WJ Davies a Hedd Bleddyn.
Yn ddiddori ar y cae oedd T卯m Bwyell Dyffryn Gwy. Arddangosfa cerflunio gyda llif gadwyn.
Diddorwyd y plant gan Pied Piper y dewin. Bu'r chwaraeon a'r p锚l droed pum-bob-ochr yn denu y plant eto eleni. Roedd ambell stondin yn gwerthu ei cynnwys ar y cae.
Gwelwyd stondin gan Ymatebwyr Cyntaf Llanbrynmair yn arddangos eu pac angenrheidiol i fynd allan ar alwad brys.
Maent yn bodoli ers blwyddyn yn awr yn gofalu am anghenion lleol.
Bu'r ras gwn yn boblogaidd iawn eto eleni.
Yn dilyn noson y sioe cafwyd noson hwyliog yn y babell gyda rhost twrci blasus ac ocsiwn.
Roedd elw'r noson yn cael ei rhannu rhwng y sioe a'r ffermwyr Ifanc.
Hoffai'r pwyllgor ddiolch i bawb am bob cymorth i alluogi Sioe llwyddiannus eto eleni.
|