"Dyma lun o rai o bentrefwyr Darowen yn clirio eira efo rhawiau adeg eira mawr 1947. Rhaid oedd clirio'r eira o bentref Darowen lawr i Ddolybont (ryw filltir a hanner i ddwy filltir) er mwyn cwrdd Eric Thomas y pobydd oedd yn dod o Fachynlleth a'i fara ddwy waith yr wythnos.
Doedd dim s么n am jac codi baw yr amser yna.
Yn y rhes 么1 mae:- Goronwy Lloyd, Richard Humphreys, Leslie Davies, Leslie Humphreys, Richard John Jones o flaen Goronwy ac ar y blaen mae Miss Burton y brifathrawes a Iori Lloyd, yr unig un sydd yn dal yn fyw. Roedd yn 80 oed ar yr 8fed o Chwefror.
Bu'r ysgol ar agor drwy'r amser ond am ryw wythnos ar ddiwedd yr eire pan oedd yn amhosib i neb gyrraedd yno.
Roedd y brif athrawes a'r gogyddes yn byw yn y pentref ac roodd rhyw tair o ddisgyblion yn cyrraedd bob dydd.
Rwy'n cofio eistedd o gwmpas v 'st么f' yn un cornel yn cael gwersi `Algebra'."
|