Mae'r cynlluniau i ddatblygu'r Ganolfan Integredig, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Sir Powys a Chronfa'r Loteri Fawr yn parhau i gynyddu. Y gobeithion ydi i'r gwaith adeiladu ddechrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Nid adeilad yn unig fydd y Ganolfan Integredig. Y pwrpas fydd cael sefydliadau lleol yn rhannu gwybodaeth ac yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth. Cylch Meithrin Machynlleth sydd wedi derbyn y cytundeb i gydlynu'r wybodaeth am yr holl wasanaethau yn ymwnead 芒 phlant 0 - 14 (ac i fyny at 16 i bobl ifanc hefo anghenion ychwanegol) a'u teuluoedd yn ardal Bro Ddyfi. Mae'r cydlynwyr Carys Jones a Jane Evans wedi bod yn brysur yn ymweld 芒 gwahanol grwpiau a sefydliadau, yn casglu gwybodaeth i fas-data a gwefan y ganolfan. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd angen gwybodaeth am wasanaethau yn yr ardal gael hyd iddo. Mae nhw angen eich help chi. Os ydych yn defnyddio, yn gwybod am neu yn mynychu unrhyw gr诺p y dylid ei gynnwys ar y bas-data neu os fyddech yn hoffi mwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 Carys neu Jane ar 01654 700102 neu e-bostio canolfanintegredig@cylchmeithrinmachynlleth.co.uk
|