Hwn oedd y perfformiad cyntaf erioed o'r gwaith yn Theatr y Werin, Aberystwyth - tipyn o sialens! Bu raid ymarfer yn galed am gyfnod o chwech wythnos, gan fod y cyfansoddiad yn un uchelgeisiol iawn. Fy mhrofiad yn 'Dolffin' "Roeddwn yn gyffrous cyn perfformio'r opera. Roeddem wedi ymarfer llawer at y perfformiad. Teimlais yn nerfus a hyderus cyn mynd ar y llwyfan. Roedd llawer o bobl yn y gynulleidfa. Roedd pobl yr opera yn garedig ac yn gyfeillgar iawn. Roedd yn brofiad bythgofiadwy i fod yn yr opera, 'Dolffin'. Roedd y s诺n o'r delyn a'r offerynnau taro yn anhygoel. Ar ddiwedd perfformiad y prynhawn cawsom gyfarfod yr awdures Gwyneth Lewis. Roedd llawer o oleuadau yn sgleinio o bob cyfeiriad y llwyfan. Roedd Nick, y cyfawyddwr yn dysgu'r symudiadau inni.Roedden yn lwcus ein bod yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg oherwydd bod yr opera yn ddwyieithog. Enw y cantorion proffesiynnol oedd Kate, Owen a Jeff. Roedd Julian yn bwysig oherwydd fo oedd yr arweinydd. Y delynores oedd Ceri a'r 'percussionist' oedd Chris. Diolch i'r bobl hyn i gyd am gael cymryd rhan yn yr opera. Diolch i Mrs Blake a Mrs Pugh am ein dysgu ni hefyd." Ysgrifenwyd gan Gwenno Griffiths
|