Mae Plas Machynlleth, cyn gartref atyniad "Celtica", wedi bod yn wag ers cau Celtica ddiwedd Mawrth, gyda dim ond ychydig iawn o ddefnydd yn cael ei wneud o'r lle.
Ar 么l ymchwilio'n fanwl i ddyheadau'r trigolion lleol mae Pwyllgor Llywio'r Plas wedi llunio cynnig a fydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Powys i'w ystyried...
Dywedodd Andy Rowland ar ran y Pwyllgor Llywio: "Mae'r cynnig yn tynnu at ei gilydd bopeth a ystyrir yn bwysig gan drigolion Bro Ddyfi yn 么l yr arolwg. Does dim dwywaith nad yw dyfodol yr adeilad hwn yn ganolbwynt i fywyd ym Machynlleth: ac yn gydnaws a'r rhodd wreiddiol i bobl Machynlleth gan y 7fed Arglwydd Londonderry. Bydd ein cynnig ni'n sicrhau dyfodol ariannol yr adeilad yn ogystal 芒 dod 芒'r adeilad yn 么l i galon y gymuned."
Mae gweledigaeth y Pwyllgor Llywio ar gyfer dyfodol Plas Machynlleth yn cynnwys cymysgedd cyffrous o ofod celfyddydol, lle i fusnesau, cyfleusterau addysgiadol, adnoddau treftadaeth ac atyniadau galw-i-mewn i ymwelwyr 芒'r ardal.
Ar y llawr gwaelod, bydd y lle'n cael ei ail-gynllunio fel man croesawgar i
gynnal cynadleddau, cyfarfodydd grwpiau lleol a chelfyddydau perfformio. Yn ogystal 芒 hyn mae lle wedi'i gynllunio i ddenu ymweliadau gan ysgolion, a bydd yno sinema 80 sedd i ddangos ffilmiau Cymraeg a Saesneg.
Bydd yno ystafell baned hefyd gyda lle chwarae ar ffurf parc p锚l, cyfleusterau yn benodol ar gyfer rhieni a phlant ifainc: defnyddir yr ystafell bared fel bwyty iawn min nos yn rheolaidd, gyda rhaglen dreigl o adloniant byw.
Nod y gr诺p yw adfer Orendy hanesyddol yr adeilad, fel rhan o'r rhaglen adfer gyffredinol.
Ar loriau 1 a 2, bydd "Canolfan Plas Gwaith" yn cynnig lleoedd arbennig ar gyfer swyddfeydd am brisiau isel i fusnesau bychain - cyfrir prinder lle'n gyfrifol am ddiffyg datblygiad economaidd y dref.
"Bydd Plas Machynlleth yn cyflawni dwy swyddogaeth arbennig yn y dyfodol pe byddai ein cynigion yn cael eu derbyn. Bydd yn adnodd ysbrydoledig a phwysig i'r gymuned leol. A bydd yn denu ymwelwyr i bob math o atyniadau, o'r bwyty a'r sinema i'r arddangosfeydd treftadaeth, cyfleusterau cynadledda a rhaglenni addysgiadol," meddai Andy wrthym.
Apwyntiwyd y Pwyllgor Llywio gan gyfarfod cyhoeddus ym mis Ionawr, ac mae'n adrodd yn 么l i Fforwm Cymunedol Lleol Machynlleth a'r Cylch. Dewiswyd yr aelodau i adlewyrchu'r syniadau amrywiol a awgrymwyd yn y ddau gyfarfod cyhoeddus, ac maent yn cynnwys pobl fusnes lleol, penseiri, cynghorwyr, cynllunwyr ac addysgwyr. Mae wedi derbyn cyngor cyfrifwyr, ac ymgynghorwyr busnes yn ystod cyfnod datblygu'r cynnig.
Cadeirir y Gr诺p gan Meinir Wyn Jones. "Rydym yn gobeithio derbyn y golau gwyrdd gan Gyngor Sir Powys er mwyn gwireddu breuddwydion pobl Bro Ddyfi", meddai.
Mae'r pwyllgor yn brysur yn trefnu digwyddiad yn Y Plas ar gyfer prynhawn a min nos Mehefin 25ain. Bydd yn cyfuno adloniant gan rai tebyg i Gwilym Morris a "Black Russian", gyda chyfleoedd i drafod y cynigion a theimlo'r posibiliadau. Mae'r aelodau'n awyddus i adrodd yn 么l i'r gymuned ac i geisio cefnogaeth. "Bydd hwn yn gyfle i wyntyllu'r cynigion yn llawnach ac i ddathlu'r lle a'i botensial ar gyfer y dyfodol ", meddai 'r trefnydd Jenny Hall.
Mae mwy o wybodaeth ar Wefan ecodyfi -
Os ydych am wybodaeth bellach cysylltwch ag Andy Rowland yn ecodyfi. Ff么n: 01654 703965