Cyflwynir Medal Glynd诺r yn flynyddol fel rhan o weithgaredd G诺yl Machynlleth i unigolion sydd wedi disgleirio ym maes cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol neu llenyddiaeth.
Enillydd Medal Glynd诺r eleni am gyfraniad arbennig i lenyddiaeth yng Nghymru yw'r prifardd Tudur Dylan Jones. Ganed ef yng Nghaerfyrddin ond symudodd y teulu i Fangor lle'r aeth i'r ysgol ac yna i'r Brifysgol. Enillodd Gadair Eisteddfod Bro Colwyn ym 1996 a chadair Eisteddfod genedlaethol Eryri a'r Cyffuniau yn 2005, ac yna yn 2007 fe gipiodd Goron Eisteddfod y Fflint.Mae'n aelod o d卯m Talwrn y Beirdd, Y Taeogion a bu'n Fardd Plant Cymru yn 2004-05.Ef hefyd oedd golygydd y gyfrol hardd Trysorfa T Llew Jones a gyhoeddwyd yn 2004 a chyhoeddwyd ei gasgliad cyflawn cyntaf o gerddi i blant 'Rhywun yn Rhywle' yn 2005.
Cynhelir seremoni cyflwyno'r fedal yn y Tabernacl, Ddydd Gwener, Awst 22ain am 1 o'r gloch. Yn bresennol i gyflwyno rhaglen i gyfarch Dylan bydd aelodau t卯m Talwrn y Beirdd Bro Ddyfi a disgwylir i Dylan ddweud gair yn ystod y cyfarfod.
Gwnaethpwyd y fedal gan y gemydd lleol Kelvin Jenkins. Arni fe welir amlinelliad o Fae Ceredigion ac aber y dyffryn y Dddyfi gyda smotyn o aur yn dynode safle Machynlleth. Mae croeso cynnes I bawb I ddod I'r cyfarfod arbennig hwn.
|