Lluniau, adolygiadau a chlipiau sain o Penri Roberts yn s么n am sioe Llwybr Efnisien a Theatr Ieuenctid Maldwyn. Roedd gen i frith gof o'r hanes o'n nyddiau coleg ond fel yr oedd y sioe yn datblygu, daeth yr hen stori atgas yn 么l ataf. Roedd y golygfeydd o'r Ail Ryfel Byd ar sgrin yng nghefn y llwyfan yn awgrymu nad oes dim wedi newid ers dyddiau'r Mabinogi. Braf oedd gweld llond llwyfan o blant a phobl ifanc Maldwyn yn byrlymu o afiaith yn canu ac yn symud.
Pleser llwyr oedd gweld y fintai fawr yn cyd berfformio gyda'i gilydd. Aelodau h欧n y cwmni oedd yn cymryd y prif rannau a da oedd sylwi fel yr oedd y lleisiau wedi aeddfedu a'r cyrff wedi cryfhau. Dynion oedd y cymeriadau erbyn hyn a hithau, Branwen (Elinor Camlin) yn gweddu'n hyfryd i'r cymeriad.
Cefais fy mhlesio'n fawr gyda chanu ag actio Matholwch (Gwyndaf Llewelyn Davies) a Bendigeidfran (Osian Llewelyn Edwards) ac roedd pedwarawdau hyfryd gan aelodau Llys Matholwch, Rhodri Jones, Richard Lewis, Dafydd Francis a Luke McCall.
A beth am Efnisien? Dyma gymeriad oedd yn siwtio Steffan Harri i'r dim a gallech weld ei fod yn mwynhau bob eiliad roedd o ar y llwyfan. Oes yna ddim diwedd i ddawn y bachgen yma? Mae ei bresenoldeb ar lwyfan yn anhygoel -yn llenwi'r lle pan oedd o ar ei ben ei hun hyd yn oed.
Roedd dawnsio adar Branwen yn osgeiddig a dymunol iawn. Roedd llawer o ddawnsio yn y cynhyrchiad ac roedd y cyfan yn gaboledig - mae Mel Jones i'w llongyfarch.
Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins sy'n gyfrifol am y sioe yma eto ac mae ein dyled yn fawr i'r tri am eu gwaith caled yn rhoi y cyfleoedd ardderchog yma i ieuenctid Maldwyn. Diolch yn fawr am Ysgol Theatr Maldwyn a phob lwc ar y daith i Rhosllannerchrugog, Y Rhyl, Harlech a'r Bala yn ystod yr wythnosau nesaf.
Diolch am y wledd 'rhen blant.