Mae gen i frith gof i ni gynnal cyfarfodydd di-rif yn ystod 1982 er mwyn gwyntyllu'r syniad. Yr oedd hi'n bwysig ein bod yn cychwyn y fenter ar seiliau cadarn, felly aed ati i sicrhau y byddai digon o gyllid ar gael, digon o hysbysebwyr, y byddai darllenwyr wedi i ni ddechrau ei gyhoeddi ac y byddai parhad iddo i'r dyfodol. Bu'r gefnogaeth i'r Seren, am dros ugain mlynedd, bellach, yn ardderchog.
Dywed Golygyddol y rhifyn cyntaf, ym Mai 1983, "Aeth blwyddyn heibio er pan awgrymwyd y syniad, ac fe fu llawer o bobl yn gweithio'n ddyfal ar y fenter ers hynny. Fe hoffen ni ddiolch yn gynnes iawn iddyn nhw am eu dyfalbarhad". Yn yr Oriel Goffa y cynhelid y cyfarfodydd hyn, ac yr oedd nifer dda o gefnogwyr brwd, gyda'u gwybodaeth a'u sgiliau arbennig, a fu o gymorth mawr i'r Seren.
Wrth gwrs, wydden ni ddim yr adeg honno beth fyddai enw'r papur; ai llais yn parablu, llif yn byrlymu neu seren yn llewyrchu a fyddai? Cynhaliwyd cystadleuaeth er mwyn dod o hyd i enw. Cafwyd llawer awgrym, ac yn y pen draw, ar 么l cyn drafod penderfynwyd ar 'Seren Hafren, sef awgrym y diweddar Mr Maurice Richards, Y Drenewydd.
Yr oedd criw bychan wedi ei benodi i fod yn olygyddion ac yn gysodwyr, ac y mae hanes gosod y rhifynnau cyntaf yn hynod o ddiddorol. Yn festri'r Capel Coffa y bu'r troeon cyntaf, a chymerai oriau i ni wneud y gwaith. Yr oedd yn rhaid creu pob pennawd gyda llythyrennau unigol a elwid yn 'lettraset', torri pob colofn a'u gludo efo 'Pritt', a chywiro pob camgymeriad teipio trwy ddefnyddio 'Tippex', neu dorri llythrennau allan a gludo rhai yn eu lle.
Yr oeddem yn dysgu geirfa newydd sbon wrth ymwneud 芒'r gwaith, a chyda llaw, cofiaf, yn un o gyfarfodydd Y Pwyllgor Rheoli, i un o'r merched, a fu'n gefngol tu hwnt i'r Seren ar hyd ei hoes, ddweud, 'rhaid i chi egluro'r geiriau 'lettraset', 'Pritt' a 'Tippex' 'ma i mi, dydi 'Nghymraeg i ddim cystal 芒'ch un chi!' Yr oedd hi'n oriau man y bore cyn i ni orffen cysodi dli yn aml. Yna cawsom wahoddiad i fynd i Bronfelin, cartref Alun a Joan Phillips yng Ngharno, ac i Gwalia, cartref Sioned Penllyn, i wneud y gwaith. Roedd y nosweithiau hyn yn llawn hwyl a thynnu coes a chroesdynnu yn aml.
Un o'r pethau oedd yn creu problemau oedd cywiro ar 么l i'r deipyddes deipio, gan fod rhai yn mynnu cywiro efo beiro, yn lle defnyddio'r dull cywir! Weithiau byddai dadlau ynglyn 芒 pha stori i'w rhoi ar y dudalen flaen, dadlau am gynnwys ambell erthygl, ansawdd a maint ambell i lun, gwerth rhoi ambell i beth yn y papur o gwbl, a hyd ambell i erthygl neu stori. Ond nosweithiau difyr dros ben oedd y rhain.
Mae edrych yn 么l dros dudalennau blaen y rhifynnau cyntaf yn dangos cymaint o waith a olygodd i'r golygyddion a'r gohebwyr. Mae'r ail rifyn yn cynnwys cyfweliad 芒 phump o ymgeiswyr yn Etholiad 1983 - Alex Carlisle, Carl Clowes, David Rowlands, Delwyn Williams a Joe Wilson. Cofiaf fynd i gyfweld rhai ohonyn nhw efo Mr Alun Phillips, ac nid mater bach oedd cofnodi eu safbwyntiau yn deg ac yn gryno. Mae erthyglau am ddatblygu yn y Canolbarth; Eisteddfod Powys, Y Drenewydd 1984; Plas yr LSD - sef Plas Llysyn, Carno a hanes C么r Meibion Y Drenewydd. Erthyglau swmpus sy'n werth eu hail gyhoeddi, hwyrach, mewn rhyw golofn nostalgic ar 么l i'r papur ddathlu eu ugain oed.
Mae'n ddiddorol syiwi ar rhai o'r colofnau a fu'n boblogaidd ar un amser ond sydd wedi peidio a bod erbyn hyn. Un o'r rhai mwyaf poblogaidd, rwy'n meddwl, oedd colofn 'Oedran Teg' lle y ceid atgofion pobl oedd dros eu naw deg oed. Yn y rhifyn cyntaf ceir hanes gwraig oedd yn gant a dwy oed, sef Mrs Eleisa Davies, Cartref, Llanidloes, gwraig yn enedigol o Sir Fflint, oedd yn byw gyda'i mab a'i merch yng nghyfraith. Mae ei hatgofion yn ddiddorol dros ben, a chafwyd llawer o atgofion hyfryd gan lawer o bobl dros y blynyddoedd. Colofn arall oedd yn creu peth diddordeb oedd colofn yrru dan y teiti 'Mwg Drwg' a ysgrifennid gan Mr Alun Phillips, R oedd colofn 'Pysgota', a ysgrifennid gan 'Y Copyn Du', y diweddar Mr Meurwyn Thomas, oedd yn cynnwys hanesion a gwybodaeth ddiddorol dros ben.
Mae rhai pethau wedi aros o'r dechrau. Mae 'Myfyrdod y Mis', sef neges Gristnogol gan wyr a gwragedd Ordeiniedig sydd 芒 rhyw gysylltiad 芒'r ardal, wedi ymddangos ym mhob rhifyn. Mae 'Dyddiadur' o ddigwyddiadau yn y gwahanol leoedd, dyddiadur o oedfaon yn yr eglwysi, Tudalen y Plant, llythyrau, er mai hysbysebion a gwybodaeth gan gwmniau yw'r rhain gan amlaf, Colofn Chwaraeon, Colofn i'r Dysgwyr ac, wrth gwrs, newyddion o'r gwahanol ardaloedd. Mae 'Seren Hafren', erbyn heddiw wedi ennill ei lle, ac mae ei chynnwys, dros ugain mlynedd o gofnosi hanes Dyffryn Hafren, yn hynod o bwysig i'r dyfydol.