Er i ni weld y ddrama gerdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd awyrgylch cartrefol a chynnes Theatr Hafren yn ychwanegu at angerdd y perfformiad. Gyda nodau cyntaf y corws - roedd gwallt fy mhen yn pigo ac felly yr un modd bob tro y canent. Er eu bod ar y llwyfan bron drwy'r ddrama, roedd eu symudiadau yn gynnil pan fo raid ac yn fywiog mewn golygfeydd eraill. Roedd y prif gymeriadau yn rhagorol: Sara Meredydd yn dehongli y gyfriniaeth, ryfedd a berthynai i Ann Griffiths, Barrie Jones a'i lais cadarn yn portreadu John Hughes a Geraint Roberts yn cymryd rhan y Ficer trachwantus. I mi, pinacl y noson oedd datganiad Edryd Williams fel Thomas Griffiths, gwr Ann, yn canu'r g芒n hyfryd "Aderyn ar fore o Fai" Clasur o g芒n yw hon. Mae'r tri cyfarwyddwr Linda Gittins, Penri Roberts a Derec Williams i'w llongyfarch unwaith eto am sioe fendigedig. a'n bod ni fel ardal yn datgan ein balchder yn eu dawn a'u hymroddiad i Gwmni Theatr Maldwyn.
|