Roedd yn fraint i'r plant gael mwynhau'r profiad gwerthfawr yma.
Dyma'r cerddi a gyfansoddwyd yn ystod y bore:
Castell Dolforwyn
Does dim cod post i'w roi
Yn y Tom Tom,
Sgrin lwyd fel niwl o flaen y car.
Sbageti o ffyrdd bach cefn gwlad
A dim arwyddion ond enwau ffermydd.
Parcio a dringo'r llethr sg茂o i fyny'r bryn.
Coeden ar draws y llwybr,
Bwldog yn cysgu ag un llygad ar agor.
Sut storm oedd honno pan ddaeth y m么r a llyncu tir Llywelyn,
Pan syrthiodd y s锚r,
Pan aeth hiraeth yn yfory,
Ar hynt y gwynt a'r glaw?
Ar ben y bryn,
Mae darnau o hyd ar goll
O'r jig-so cerrig,
Ond mae'r gyfrinach i'w gweld
Ac mae'r ffynnon yn llawn.
Haul tanbaid Mawrth y cyntaf
Uwch canol Maldwyn, calon Cymru
Ac yn Ysgol Dafydd Llwyd
Mae castell coch Cymraeg.
Gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6
Cennin Pedr Cymru
Milwyr y gwanwyn
Yn herio'r gaeaf gyda'u cefnau'n syth.
Corn aur ein cerddoriaeth, yn llawn o hen ganeuon,
'Chydig o hwyl, 'chydig o hiraeth.
Llyw crwn yn mynd 芒 ni ar daith i ddathlu iaith a thir,
Hen siwrne i Gymru newydd.
Haul ein dydd, seren ein nos
Yn d芒n yn ein calonnau ar hyd y flwyddyn.
Gan ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4.
|