Nos Fercher 14 lonawr daeth nifer dda ynghyd i wrando ar Lisa Markham o Lanfihangel y Pennant, i s么n am toga. Hynny yw-roeddem ni i gyd yn meddwl ein bod ni'n mynd i eistedd yn braf yn ein caderiau a gwylio Lisa yn dangos i ni sut i wneud Ioga.
Nid felly y bu with gwrs. Roedd Lisa yn Ilawn brwdfrydedd ac yn fuan iawn fe symudwyd y cadeiriau'n 么l er mwyn cael digon o le i chwifio'r breichiau a'r hen goesau o gwmpas.
Rhaid oedd rhyfeddu at egni Lisa a buan iawn fe berswadiodd hi y rhai mwyaf heini i orwedd ar y Ilawr ! Roeddwn i mor falch mai Olwen Jenkins a finna oedd yn gwneud y te ac felly cawsom ddianc i'r gegin cyn i ni orfod gorwedd ar y carped a'n coesau yn yr awyr.
Braf oedd cael gwybod am gysylltiadau agos Lisa gyda Charno. Ei mam, y diweddar Elinor, yn ferch ieuengaf Oerffrwd ac yn chwaer i Margaret yr Hendre.
John a Mair Roberts y gantores. Gwn fod rhagor o deulu and ni allaf eu henwi. Pleser o'r mwyaf oedd croesawu Lisa i'n plith a mwynhau ei chyfeillgarwch.
Ar ddechrau'r cyfarfod fe drafodwyd ychydig o fusnes. Ein hymweliad 芒 changen Lianfair i fwynhau "Lysh" a threfnu'n cyfarfod nesaf Chwefror 11 eg yng nghartref Joan Phillips yng Ngharno i'w gweld yn coginio - mae Joan yn gallu gwneud i bopeth ymddangos mor hawdd.
Byddwn yn dathlu Dydd Gwyl Dewi eleni.nos Wener Mawrth 6ed yng Nghlwb Rygbi'r Drenewydd..Tocynnau'n 拢5 oddi with aelodau'r gangen neu Rhiain Selby ar 01686 625120.
|