Mae'r ddwy yma yn perthyn yn agos i Dilys Gittins Mitchell sy'n meddwl cymaint o Gymru a Charno.
Roed Lil wedi priodi Richard Lewis, un o naw o blant a aned i David Edwin, T欧 Nant, Carno ac Annie Jane (Gittins gynt), chwaer i Gertie Gittins, mam Dilys sy'n byw yn Edmonton Canada. Aeth David Edwin Lewis a Jane i Alberta, Canada yn y flwyddyn 1905 yn gyntaf i Penoka ac yna i Hayter lle bu David Edwin yng ngofal swyddfa bost a hefyd yn gwerthu pob math o offer ffermio. Mae'r t欧 gwreiddiol yn para - mae ar ei draed ac yn cael pob gofal gan Sharon, merch hynna Lil.
Ganed pedwar o blant i Richard a Lil a phan oedd Sharon yn 7 oed bu farw Richard. Wedi i'r plant dyfu fyny, fe aeth Lil i Katmandu, Nepal i ofalu am gartref i genhadon a bu yno am saith mlynedd.
Y cysylltiad efo T欧 Mawr, Carno yw bod mam Edwin wedi priodi Simon Jones ac fe aned pedwar o blant iddynt sef Arthur, Richard, Mary a Ceridwen.
Y diwrnod bu Lil a Sharon yn ymweld 芒 Charno cafwyd pob croeso gan Mr Parker i weld T欧 Mawr. Hefyd bu Mr a Mrs Bill Fairbrother yn garedig iawn yn rhoi croeso iddynt yn yr Hen
Efail lle bu tad Annie Jane yn gweithio fel g么f.
Y Glyn oedd hen gartre teulu'r Gittins ac eto cafwyd cyfle i roi croeso iddynt gan Glynne a minnau yn y Maesnant a threuliwyd amser hapus iawn yn olrhain y teulu.
Bu ymweliad 芒'r Ganolfan lle gwelwyd y plac ar y wal wedi i Dilys a'i g诺r Doug roi 拢10,000 i gronfa'r Ganolfan yn 2003. Hefyd gwelwyd y Beibl a roddodd Dilys i Gapel Peniel er cof am ei mam Gertie.
Trist oedd gweld Capel Peniel yn dirywio'n awr ond roedd gwell golwg ar yr Hen Ysgol ar gyfer y Capel lle bu Annie Jane Gittins yn mynychu pan yn ferch fach.
Roedd Dilys wedi dymuno i Lil a Sharon weld y melinau gwynt ar y mynyddoedd uwchben Carno a dyna ddiweddglo hyfryd i'r dydd.
Balch iawn oedd Lil a Sharon i brynu darlun yn Yr Aleppo y noson honno o'r union fan ger y melinau gwynt.
Yr oedd Dilys a Doug yn hynod o ddiolchgar o'i dderbyn ar 么l i Lil a Sharon ddychwelyd yn 么l i
Ganada.
Fel cydnabyddiaeth o'u pleser o ymweld 芒 Charno fe ddanfonodd Lil a Sharon gyfraniad caredig iawn o 拢150 i'r Ganolfan. Wel, diolch yn fawr i'r ddwy am eu haelioni. Diolch i Mrs Margaret Lloyd am ddod a'r hanes i'r Seren, oherwydd mae Dilys Gittins (Mitchell) yn derbyn y Seren yn rheolaidd a diolch hefyd i Mr a Mrs Malcolm Lloyd am fynd a'r ddwy i'r gwahanol leoedd drwy'r dydd er mwyn i'r ddwy gael gweld lle bu eu teulu yn gysylltiedig 芒 nhw.