Yn wreiddiol yn gartref i'r teulu Talbots, set un o deuluoedd diwydiannol mwyaf Cymru, profodd y maes yn llwyddiant ysgubol gan i'r Urdd arbrofi eleni trwy gynnal yr holl ragbrofion ar un maes yn hytrach na defnyddio ysgolion a chanolfannau cyfagos. Daeth cryn lwyddiant i ardal y Seren o'r diwmod cyntaf gyda Jasmine McKelvey o Ysgol Gynradd Llanidloes yn cyrraedd y llwyfan ar y gystadleuaeth Llefaru i Ddysgwyr gan gipio'r wobr gyntaf. Ar ddiwedd y sesiwn gyntaf o gystadlu, daeth yn amser i baratoi'r Pafiliwn ar gyfer Noson Gystadlaethau y Caneuon Actol ac yn dilyn llwyddiant Ysgol Dafydd Llwyd y llynedd roedd rhieni, teidiau, neiniau ac athrawon yr Ysgol i gyd wedi cyrraedd i gefnogi'r plant yn eu perfformiad. Ar ddiwedd noson, ac o fewn Pafiliwn llawn, cafodd eu cefnogaeth ei chydnabod gyda'r cyhoeddiad gan arweinydd ym llwyfan sef ... 'Yn gyntaf ... Ysgol Dafydd Llwyd' camp arbennig yw ennill un o brif gystadlaethau yr Eisteddfod am ddwy flynedd yn olynol. Ymlaen yn awr i 'Steddfod M么n am yr hat trick'!! Un o uchafbwyntiau'r dydd ar y dydd Mawrth gan sylwebyddion y teledu oedd perfformiad Bethan Morgan Williams, merch Mr Ian Morgan Williams, athro cerdd Ysgol Uwchradd y Drenewydd, wrth iddi ennill yr unawd llinynnol dan 12 oed, a braf hefyd yw nodi i'r Ysgol Uwchradd ennill y wobr gyntaf am waith ar fideo i ddysgwyr. Profodd Eisteddfod eleni yn un hynod o lwyddiannus i ardal Llanidloes gyda Jessamy Ashton o'r Ysgol Uwchradd yn cipio'r ail wobr am lefaru i Ddysgwyr 12- 15 oed ac yn y maes cerddorol gwelwyd uchafbwyntiau i'r ysgol ar y dydd Iau wrth iddynt ennill y wobr gyntaf ar gyfer y gystadleuaeth Ensemble dan 15 oed. Roedd eleni yn flwyddyn arbennig i Aeron Preston gan iddo ennill amryw o wobrau - yn gyntaf enillodd y wobr gyntaf ar gyfer yr unawd Piano 12-15 oed ar y dydd lau. Ac yna gyda Fiona Leslie enillwyd y 3edd wobr yn y gystadleuaeth Ddeuawd Piano dan 19 oed. Yn 么l y beirniad Branwen Evans, Aeron oedd hefyd y pianydd mwyaf addawol o'r holl gystadleuwyr o dan 19 oed ac ef felly dderbyniodd Dlws Siop Eifionydd. Dymuniadau gorau iddo i'r dyfodol.
|