Daeth cyfle i aelodau Capel Peniel i ddathlu dau achlysur gwahanol yn cyd-ddigwydd yn y gymuned. Y cyntaf - a'r un sydd yn hysbys i'r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn oedd bod Eluned wedi cael yr Anrhydedd MBE gan y Frenhines yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. Fe'i hanrhydeddwyd am ei gwaith yn y gymuned - mae wedi bod yngl欧n 芒 Chlwb Bro Maldwyn (clwb i'r henoed yng Ngharno) ers blynyddoedd bellach - ac am ei gwaith dros glefyd cancr leukaemia yn Sir Drefaldwyn.
'Dydy Glynne a Mai Richards ddim wedi cael anrhydedd gan y Frenhines ond y maent wedi eu hanrhydeddu gan aelodau Capel Peniel Caron. Mae Glynne wedi ymddeol fel Ysgrifennydd yr achos ar 么l wyth mlynedd ar hugain a daeth cyfle i gyflwyno anrheg amserol iddo fel gwerthfawrogiad bychan am yr holl waith caled - ond mae aelodau Peniel yn ddigon craff i ddeall nad oedd Glynne wedi gwneud y gwaith i gyd ei hun. Tra y bu ef yn teithio'r Canolbarth i bwyllgorau P锚l Droed min nosau, Mai oedd yn gwarchod. Mae darllenwyr y Seren ac aelodau Peniel yn gwybod un mor dda ydy hi am gadw dyddiadur, gwneud nodiadau atgoffa a chadw trefn weinyddol ar bob agwedd o weithgarwch y Capel - e.e. Mai sydd wedi bod yn trefnu Cwrdd Gweddi Merched y Byd yng Ngharno ers Degawdau.
Y mae hi'n ddiogel i ddweud bod gan Gapel Peniel le cynnes iawn yn eu calonnau ac y maent eu dau wedi gwneud eu rhan dros yr achos ar hyd y blynyddoedd gan frwydro i gadw drysau'r Capel ar agor. Yn anffodus collwyd y frwydr honno oherwydd grym cyfreithiau iechyd a diogelwch - ond daeth tipyn o dda allan o'r sefyllfa hefyd pan symudodd Gwasanaethau'r Sul i gartref cysurus newydd yn y Ganolfan Gymdeithasol - ac erbyn hyn mae'r Methodistiaid a'r Annibynwyr yng Ngharno wedi lled-ymuno a cynhelir Gwasanaethau ar y cyd. Y Parch Edwin Hughes oedd yn cyflwyno'r seremoni fechan ac yr oedd y gynulleidfa yn werthfawrogol o'i arweiniad gofalus ar achlysur nodedig.
Anrhydeddu Eluned (rhifyn Chwefror 2008)
|