Yn gynnar yn y flwyddyn 2006 bydd Gwersyll yr Urdd Llangrannog yn croesawu'r ymwelwyr cyntaf i Ganolfan Treftadaeth 'Caer Chwedlau'. Bydd y ganolfan, gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yn olrhain hanes yr Urdd a'i ddylanwad ar bobl Cymru, yr iaith Gymraeg a'r gymdeithas leol. Er mwyn creu darlun cywir o'r gwersylloedd ar hyd yr oesoedd mae'r Urdd yn estyn ap锚l i Gymru gyfan am unrhyw wybodaeth ddiddorol am y gwersylloedd neu'r Urdd a all fod o ddefnydd wrth gynllunio'r Ganolfan Treftadaeth. Boed yn llythyr adref, lluniau o ffrindiau'n mwynhau, neu atgofion am y tripiau lawr i'r traeth a'r canu gyda'r nos a'r pebyll! Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei ddefnyddio yn y Ganolfan Treftadaeth. Dywed Steffan Jenkins, Cyfarwyddwr y Gwersyll: "Rydym am greu darlun cyflawn o'r hyn oedd yr Urdd a'r gwersyll yn eu golygu i bobl Cymru, a cheisio dal naws yr amser. Pa ffordd well o wneud hynny na thrwy siarad a chasglu gwybodaeth gan y gwersyllwyr gwreiddiol? Rydym eisoes wedi bod mewn cysylltiad 芒 g诺r o Gaerdydd oedd yn bresennol yn y gwersyll haf cyntaf erioed yn 1932. Mae'r wybodaeth a'r atgofion a gasglwyd o'i brofiadau ef yn amhrisiadwy wrth geisio ail-greu y naws a fu". Bydd y Ganolfan Treftadaeth yn sefyll o fewn adeiladau hanesyddol fferm Cefn Cwrt, Gwersyll yr Urdd Llangrannog. Cwblhawyd y gwaith ar gragen yr adeilad llynedd gyda chymorth o EAGGF, fel rhan o fuddsoddiad 拢5.5 miliwn. Bydd y prosiect yn cynnwys:
Canolfan rhyngweithiol i ymwelwyr yn cyflwyno hanes yr Urdd, a'i effaith ar iaith a diwylliant
" Ystafell aml bwrpas ar gyfer gweithgareddau addysgiadol Ardal storiau a chyflwyniadau clyweledol (AV)
Ardal arddangosfeydd dros dro yn berthnasol i'r arddangosfeydd parhaolYstafell gyfarfod, astudio a derbynfaUn o brif nodau y ganolfan fydd dod 芒 threftadaeth Cymru yn fyw i dros 20,000 o wersyllwyr a hefyd ymwelwyr a thrigolion lleol, trwy ddefnyddio technoleg a'r deunyddiau mwyaf addas a chyffrous. Hyderwn y bydd yn adnodd pwrpasol ac amhrisiadwy a fydd yn cyfoethogi profiadau plant ac oedolion o'r Gwersyll a Llangrannog ei hun. Os oes gen unrhyw un eiddo neu wybodaeth ddiddorol am y gwersylloedd y byddent yn hapus i'w rhannu gallwch gysylltu 芒'r Gwersyll ar 01239 652 140 llangrannog诺urdd.org neu ysgrifennu atom: Gwersyll yr Urdd Llangrannog, Llandysul, Ceredigion SA44 6AE
|