Mae'n amlwg ei fod wrth ei fodd yn crwydro a gwmpas Y Drenewydd a'r cyffiniau ac yn gweld pethau gyda llygaid naturiaethwr, pethau sy'n ddirgelwch i'r gweddill ohonom nes i rywun fel y fo ddatgelu'r cyfrinachau i ni. A dyna'r union beth mae e wedi ei wneud yn ei lyfr "Blwyddyn lolo" - tynnu ein sylw at yr holl fywyd gwyllt rhyfeddol sydd wrth ein traed ond i ni gael y llygaid i'w weld. Ac mae e wedi llwyddo i agor llygaid a chreu chwilfrydedd o'r newydd i chwilota ac i sylwi'n fanylach ar yr hyn sydd o'n cwmpas bob dydd. Mae'r llyfr yn llawn o wybodaeth diddorol, fel y darn hwn allan o'r bennod ar fis Chwefror, "Fel hogyn bach, roeddwn i wastad yn edrych ymlaen i weld cynffonau 诺yn bach ar y coed cyll. Rhain ydy'r darnau gwrywaidd o'r planhigyn sy'n cynhyrchu'r paill, ac maent yn hongian i lawr fel bod y gwynt yn cael mynd arnynt yn haws. "Ond faint ohonoch chi sydd wedi edrych yn fanwl ar y goeden i geisio cael golwg ar y blodyn bach coch benywaidd? Mae'n eithaf amlwg, dim ond ichi chwilio amdano, ond wyddwn i ddim byd amdano tan yn eithaf diweddar. Unwaith y bydd y paill wedi ffrwythloni'r blodyn, mae'n cynhyrchu'r gneuen sydd - os caiff lonydd - yn creu coeden newydd". Mae e'n hawdd i'w ddarllen ac yn cynnwys st么r o wybodaeth, petai dim ond yr holl enwau Cymraeg ar adar ac anifeiliaid a blodau gwyllt. Does dim angen bod yn arbenigwr ar fyd natur i'w fwynhau. Mae e'n lyfr i bawb.
|