Dyma ddechrau colofn fisol am hynt a helynt trefnu Eisteddfod Powys 2010. Erbyn mis Medi bydd gennym 'logo' i'w ddefnyddio ar ben y golofn, and y mis hwn soniwn am yr Wyl Gyhoeddi.
Cyhoeddir yr eisteddfod Ddydd Sadwrn, Hydref 17e9 2009 am 3.00 o'r gloch. Os bydd y tywydd yn ffafriol cynhelir y Seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn Victoria Avenue, os bydd y tywydd yn anffafriol, yna bydd yn Y Ganolfan Gymunedol.
Bydd gorymdaith yn cychwyn o'r Ganolfan ar 么l i bawb ymgynnull am 1.45 ac yn mynd ar hyd y Stryd fawr, Stryd y Dderwen Fawr, Stryd y Bont Hir ac yna i lawr Victoria Avenue at feini'r Orsedd.
Ar y blaen bydd Seindorf Y Drenewydd. Yn gorymdeithio bydd aelodau Gorsedd Eisteddfod Powys, cynrychiolwyr o Gyngor y Dref, Cynghorau Bro'r ardal, cynrychiolwyr o wahanol gymdeithasau a mudiadau a'r cyhoedd yn Ilu. Dewch i ymuno yn y digwyddiad pwysig hwn yn
hanes y cylch.
Yng Nghylch yr Orsedd arweinir y gweithgareddau gan Y Derwydd Gweinyddol, Hedd Bleddyn. Cawn ddatganiad o'r Cywydd Croeso sydd wedi'i ysgrifennu gan Y Parch. John Pinion Jones.
Ceir Cyfarchiad Barddol gan Y Prifardd Penri Roberts. Bydd Wyth Gwladwr yn canu'n ddeuawdau o bedwar cwr yn y cylch cyn ymgynnull o flaen y Maen Llog i ganu'r pennill olaf yn wythawd. Mr. Bryn Davies fydd yn gyfrifol amdanynt. Estynnir croeso i bawb i'r Eisteddfod yn 2010 gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Y Parch. Edwin O. Hughes.
Mam y Fro fydd Mrs. Bethan Lloyd Owen. Miss Jane Griffiths fydd Morwyn y Fro. Mae trefniadau ar y gweill i ddewis y Macwyaid a'r Morynion, a dawnswyr y Ddawns Flodau, o blith plant yr ardal.
Wedi'r Seremoni bydd Iluniaeth i bawb yng Nghanolfan y Gymuned, a threfnir Cyngerdd yn yr hwyr am 7.30 o'r gloch.
|