Cafodd Ysgol Dafydd Llwyd ganmoliaeth uchel mewn arolwg ddiweddar. Nodwyd yn yr adroddiad gan Estyn, bod Ysgol Dafydd Llwyd yn ysgol dda a bod safonau cyrhaeddiad y plant yn y gwersi, yn llawer uwch na thargedau y gosodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae safonau cyrhaeddiad plant o dan bump yn enwedig yn uchel gyda'r mwyafrif o agweddau yn 'dda gyda nodweddion eithriadol.' Roedd yr arolygwyr yn cydnabod bod safonau y plant yn eu hyfedredd dwyieithog yn dangos cynnydd da iawn, gyda nifer helaeth o'r disgyblion yn cyfathrebu'n rhwydd ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae ansawdd yr addysgu hefyd yn uwch na'r targedau sydd wedi eu gosod gan LLC.C.gyda 87% o wersi naill ai'n 'dda gyda nodweddion eithriadol' neu nodweddion da a 'dim diffygion pwysig'. Sylwodd yr arolygwyr bod y plant yn 'gweithio'n galed yn y gwersi, yn dangos cymhelliant uchel ac yn gwneud cynnydd da tuag at gyrraedd eu potensial.' Mae'r adroddiad yn nodi fod y disgyblion yn ystyriol, cwrtais, a bod eu ymddygiad yn dda. Mae'r arolygwyr yn awr yn argymhell bod angen i'r ysgol ddatblygu ymhellach sgiliau medrau dysgu'r disgyblion er mwyn galluogi hwy i weithio'n fwy annibynnol. Dywedodd Mrs. Sian Davies, y Pennaeth dros dro, "Rydym yn falch bod yr adroddiad yn dangos yn glir y safonau uchel o addysg y mae pob plentyn yn derbyn. Y mae hefyd yn cydnabod yr ymroddiad a'r gwaith caled gan y staff, disgyblion a llywodraethwyr. Byddwn yn awr yn gweithio ar yr argymhellion er mwyn i'r ysgol ddatblygu ymhellach." Dywedodd Mrs. Haf Leonard, Cadeirydd y Llywodraethwyr, "Mae'r adroddiad yn deyrnged i staff a disgyblion Ysgol Dafydd Llwyd am eu holl waith caled. Mae'n adlewyrchu'n gywir y safonau uchel sydd wedi eu cyflawni ers i'r ysgol gael ei sefydlu ym Medi 2001."
|