Beth am fynd am dro i Warchodfa Natur Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed yng Nghilfach? Nid nepell o'r ffordd fawr, a dwy filltir i'r gogledd o Raeadr, mae'r dyffryn coediog hwn a'i afon dawel yn rhoi cyfle i chi ymlacio mewn amgylchedd digyfnewid.
Fe reolir y Gilfach, sy'n edrych dros Ddyffryn Marteg, fel fferm organig, ac mae hen ffermdy Gilfach hefyd yn hynod o nodweddiadol fel esiampl o d欧 hir Cymreig traddodiadol, sydd wedi datblygu o hen neuadd ganoloesol. Ar draws y buarth o'r t欧, mae'r Ymddiriedolaeth wedi addasu hen ysgubor yn ganolfan ymwelwyr, sydd wedi ei dylunio gan ystyried gofynion plant, ac mae'n llwyddo i ddod a bywyd gwyllt y Gilfach yn fyw - i bob un o'r synhwyrau!
Mae yna nifer o ddigwyddiadau cysylltiedig a bywyd gwyllt yr ardal wedi eu nodi mewn rhaglen o weithgareddau yn ystod yr haf (gwelir isod am rifau cyswllt). Mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn y Gilfach ers 1988, a thros y blynyddoedd maent wedi creu nifer o lwybrau cyfeiriedig sy'n rhoi blas i gerddwyr ar gynefinoedd amrywiol y safle godidog hwn.
Maent hefyd wedi ceisio ail-greu dulliau hunangynhaliol amaethyddol yr ardal yn y 1940au, ac fe reolir y caeau mewn rhediad cylchdroadol sy'n gweddu i'r tir a'r cnydau. Yn hwyrach eleni bwriedir ail-greu cynhaeaf 欧d, lle bydd ysgubau o 欧d yn cael eu gosod mewn stycau - 4 clwstwr o 欧d yn sefyll gyda'i gilydd mewn twmpathau i aeddfedu yn y cae, cyn iddynt gael eu cario i'r fferm i dynnu'r grawn.
Mae gan y Gilfach gymysgedd hynod o ddiwylliant a natur, sy'n toddi i'w gilydd mewn mannau i greu ansicrwydd ynghylch beth sy'n naturiol a pha beth sydd wedi ei greu. Mae'r hen reilffordd (Canolbarth Cymru) sy'n rhedeg trwy'r safle yn esiampl dda o hyn. Nid yw'n hawdd gweld yn awr lle'n union yr oedd y cledrau'n rhedeg, mae tyfiant swmpus o redyn wedi newid gwedd yr argloddiau ac mae migwyn yn tyfu mewnpyllau d诺r ar yr hen lein.
Mae yno hefyd bedair rhywogaeth o ystlumod yn byw yn yr hen dwnnel sydd yng nghanol y safle. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd trenau'n rhedeg ddydd a nos yn mynd 芒 glo i'r Grand Fleet yn Scapa Flow, ond yn awr y cwbl a glywir yw c芒n adar a murmur Afon Marteg.
Mae i'r Gilfach gyfoeth o hanes cefn gwlad Cymru. Wrth sefyll o flaen yr hen d欧, mae'n hawdd rhywsut dychmygu porthmyn yn hel eu hanifeiliaid trwy'r buarth, ond nid yw mor hawdd dychmygu trenau st锚m yn rhuthro heibio'r gilfach dawel hon. Mae cymeriad fyw yn yr oes a fu - a hir oes i'r rhamant honno, ddywedwn i.
Ymddiriedolaeth Maesyfed Cyf. sy'n berchen ar y Gilfach ac sy'n rheoli'r safle (ffon: 01597 870 301) ac mae'r Gilfach mewn Safle o Ddiddordeb Arbennig. Yn ogystal, mae'r Gilfach yn fferm organig i gynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal, sef ment, Cenedlaethol Cymru.
Erthygl gan Jonathan Neale, Cyngor Cefn Gwlad Cymru